Mae Seicolegwyr Ymarferol (Clinigol, Cwnsela ac Iechyd) yn weithwyr proffesiynol sydd wedi cael eu hyfforddi i leihau trallod seicolegol a hybu lles seicolegol. Maent wedi dilyn hyfforddiant ôl-raddedig ac mae'r rhai mewn lleoliad iechyd corfforol wedi arbenigo mewn cefnogi pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd neu salwch.
Mae therapïau seicolegol yn helpu i ddeall a rheoli effaith emosiynol a seicolegol byw gyda chyflwr iechyd. Bydd seicolegwyr yn gweithio ar y cyd â phobl i ddeall meddyliau a theimladau anodd a datblygu strategaethau i reoli'r rhain i'w galluogi i fyw bywyd ystyrlon.
Mae seicolegwyr sy'n ymarfer yn cael eu rheoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Nid yw seicolegwyr wedi'u hyfforddi'n feddygol, felly ni allant ragnodi meddyginiaeth, na chynnal archwiliadau corfforol, ond byddant yn gweithio ochr yn ochr â thîm meddygol unigolion i'w cefnogi i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.