Gall byw gyda chyflwr iechyd beri gofid i bobl a’r rhwydwaith cymorth o’u cwmpas. Mae’n gyffredin i bobl adrodd eu bod yn profi meddyliau a theimladau anodd sy’n effeithio ar les seicolegol. Mae ein gwasanaeth yn cynnig cyfle i bobl siarad am y meysydd anhawster hyn. Lle bo’n briodol, gallwn weithio gyda’n gilydd i ddatblygu sgiliau ar gyfer ymdopi, ffyrdd ymarferol o gefnogi’r rhai o’n cwmpas, a gweithio tuag at fyw bywyd llawn ac ystyrlon. Gall y ffyrdd y mae unigolion yn ymdopi â'r heriau y maent yn eu hwynebu ac yn addasu iddynt fod yn wahanol i bawb.
Mae'r rhesymau dros ddod i weld y tîm yn dibynnu ar yr unigolyn a'i gyflwr iechyd.
Os credwch y byddai'n ddefnyddiol siarad â seicolegydd, siaradwch â'ch tîm meddygol a all roi gwybodaeth ychwanegol i chi a'ch cynorthwyo gyda'r broses atgyfeirio.
Os ydych chi'n teimlo bod eich bywyd mewn perygl, eich bod mewn perygl neu os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru: 111 (dewiswch opsiwn 2), neu ewch i'r DUDALEN HON i gael gwybodaeth ychwanegol am gael mynediad at gymorth.