Mae endometriosis yn gyflwr cyffredin sy’n golygu bod meinwe sy’n debyg i leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o’r corff, yn y pelfis fel arfer. Gall hyn achosi symptomau difrifol megis llid, poen, mislif trwm neu fislif poenus, ac o bryd i’w gilydd gall achosi anawsterau wrth geisio beichiogi.
Gall effeithio pobl o bob oed, fel arfer yn ystod y blynyddoedd atgenhedlu, ond gall symptomau hefyd ymddangos ar ôl y menopos.
Gan amlaf gellir dod o hyd i endometriosis o amgylch y groth, yr ofarïau, y tiwbiau ffalopaidd, y coluddyn a’r bledren, ond gall ddigwydd mewn rhannau eraill o’r corff hefyd. Gall y darnau o feinwe, a elwir yn anafod, achosi llid, creithio ac o bryd i’w gilydd gallant wneud i organau lynu wrth eu gilydd.
Nid oes neb yn gwybod beth yn union sy’n achosi endometriosis, ond gall bod â pherthynas agos sydd â endometriosos gynyddu eich siawns o ddatblygu’r cyflwr.