Neidio i'r prif gynnwy

Genedigaethau Llonydd a Cholled ym Meichiogrwydd

Rydyn ni mor flin eich bod chi yma. Fel rhiant sydd mewn profedigaeth newydd, gwyddom y byddwch yn wynebu llawer o sgyrsiau a phenderfyniadau anodd ar yr adeg drawmatig hon.
 
Mae colli babanod yn fater byd-eang, ac ar ba bynnag gam o feichiogrwydd, genedigaeth neu fabandod rydych chi wedi colli plentyn, rydyn ni am i chi wybod ein bod ni wedi teilwra gwasanaethau yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i'ch cefnogi chi. Gallwn ddarparu gwybodaeth gyfoes am yr adnoddau sydd ar gael ichi ynghyd â mynediad at gymorth pellach.
 
Yn yr adran hon gallwch weld gwybodaeth ddefnyddiol yn ymwneud â gwneud penderfyniad am bost mortem. Gobeithiwn y bydd y fideo fer hon ar wefan Sands Lothian yn eich helpu i wneud eich penderfyniad, ynghylch a ddylid cael post mortem i'ch babi. Cafodd y ffilm ei chreu o brofiadau rhieni eraill mewn profedigaeth a gobeithiwn y bydd gwybod bod eraill wedi wynebu'r un penderfyniad, yn eich helpu i deimlo'n llai ar eich pen eich hun ar yr adeg boenus hon ac yn rhoi rhywfaint o gysur i chi. Mae gennym dimau bydwreigiaeth arbenigol ar gael ac rydym am dawelu'ch meddwl o ofal sensitif a thosturiol.
 
Rydym wedi creu dwy ardd goffa (un yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac un yn Ysbyty Neuadd Nevill) lle mae croeso i bobl ddefnyddio'r amser hwn am amser tawel i gofio'ch babi, p'un a gafodd eich plentyn ei eni yr wythnos diwethaf neu 60 mlynedd yn ôl.
 

Efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol trwy'r dolenni canlynol: