Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Mamolaeth

 

Newidiadau Dros Dro i'n Gwasanaethau Mamolaeth - 31 Mawrth 2023

Hoffem roi gwybod i chi fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud penderfyniad i gau’r Unedau Geni dan Arweiniad Bydwragedd dros dro yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent hyd nes y clywir yn wahanol.

Bydd yr Uned Geni yn Ysbyty Ystrad Fawr yn parhau i gael ei staffio'n llawn rhwng 08:30 a 16:30, ond y tu allan i oriau bydd hyn yn dychwelyd i POD geni gyda bydwraig yn mynychu ar gyfer genedigaethau yn unig.

Mae opsiynau geni gartref a'r ardal eni dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Aneurin Bevan yn parhau i fod ar gael.

Hoffem eich sicrhau bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud er lles ein mamau a'n babanod newydd mewn golwg. Cofiwch y bydd gan fenywod bedwar opsiwn o hyd o fewn ardal y Bwrdd Iechyd ar gyfer genedigaeth - gartref, uned eni dan arweiniad bydwragedd, yn yr uned eni ochr yn ochr, ac mewn uned obstetrig.

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achoswyd, ond credwn mai’r penderfyniad hwn yw’r un cywir i sicrhau diogelwch menywod ac i gefnogi ein bydwragedd sydd dan bwysau sylweddol oherwydd y prinder staff presennol.

Diolch

 

Neges gan y Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae’r Pecyn Cymorth hwn wedi’i ddatblygu gan y tîm Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol i helpu merched beichiog a mamau newydd gydag offer hunangymorth i chi roi cynnig arnynt, i gynnig rhywfaint o arweiniad ac i geisio’ch helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.

Yn yr un modd â’r holl ganllawiau ynghylch Coronafeirws (COVID-19) ar hyn o bryd, efallai y bydd y canllawiau’n newid wrth i wybodaeth ddatblygu, ond byddwn yn ceisio cadw hyn mor gyfredol â phosibl. Y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth yw 'aros gartref'.

Lles Emosiynol yn ac o gwmpas genedigaeth

 

Yng Ngwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal caredig, medrus a thosturiol i chi. Credwn yn gryf y dylai menywod allu gwneud dewisiadau cwbl wybodus ynghylch eu gofal mamolaeth, ac rydym am eich cefnogi yn y dewisiadau a wnewch.

Archwiliwch y tudalennau hyn lle gallwch weld pa wasanaethau sydd ar gael i chi yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.