Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil ac Astudiaethau Beichiogrwydd

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydym wedi ymrwymo i fod y gorau y gallwn fod.

Rydym yn ymwneud ag ymchwil glinigol genedlaethol a lleol i wella'r gofal a roddwn yn gyson ac i roi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau gymryd rhan mewn ymchwil yn y GIG. Mae'r holl gyfranogiad yn ddewisol ac ni fydd dewis gwrthod y cyfle i gymryd rhan yn effeithio ar eich gofal mewn unrhyw ffordd.

Mae gennym dîm ymchwil bydwreigiaeth sydd wedi ennill gwobrau.

Rydym wedi cael ein darnau ymchwil ein hunain wedi'u cyhoeddi yn ogystal â phapurau mewn cyfnodolion proffesiynol.

Mae ein hadran ymchwil bydwreigiaeth yn cynnig cyfleoedd datblygu i staff, cefnogaeth i staff sy'n cymryd rhan mewn astudiaeth bellach ac yn datblygu syniadau arloesol a phrosiectau gwella gwasanaeth.