Rydym yn gyfreithiol yn gallu prosesu eich gwybodaeth bersonol o dan Erthygl 6 o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) gan fod y prosesu yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni ein swyddogaethau swyddogol fel corff GIG. Bydd adegau pan fyddwn yn dibynnu ar seiliau cyfreithlon eraill fel pan fydd angen y prosesu er mwyn i ni gydymffurfio â’r gyfraith.
Rydym yn gyfreithiol yn gallu prosesu gwybodaeth categori arbennig o dan Erthygl 9 o’r GDPR gan fod y prosesu yn angenrheidiol at ddibenion rheoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol neu’n angenrheidiol at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau ym maes cyflogaeth a gyfraith nawdd cymdeithasol a diogelu cymdeithasol.
Ni fyddwn yn storio gwybodaeth bersonol am fwy o amser nag sydd ei angen. Bydd gwybodaeth bersonol yn ddienw pan na fydd ei hangen mwyach mewn fformat adnabyddadwy.
Bydd eich gwybodaeth PROMs yn aros ar y llwyfan am gyhyd ag y bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfarwyddo i'w chadw. Lle gwneir penderfyniad clinigol o’ch gwybodaeth Asesiad Iechyd Digidol, caiff yr asesiad ei gopïo i’ch cofnod claf, a gaiff ei storio yn unol â chanllawiau cadw’r GIG.
Efallai y bydd adegau pan fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill. Bydd hyn ond yn cael ei wneud lle mae sail gyfreithlon i wneud hynny ac yn unol â’r dibenion a restrir uchod.
Lle bo angen, gallwn rannu eich gwybodaeth â:
Yn rhan o’r Ddeddf Diogelu Data mae gennych nifer o hawliau gan gynnwys Yr hawl i wneud cais am fynediad i weld a chael copïau o’r wybodaeth a gedwir gan y Bwrdd Iechyd amdanoch. Enw hyn yw Cais Gwrthrych am Wybodaeth.
OS dymunwch wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth neu i gywiro eich gwybodaeth, gweler ein gwefan am fanylion Llywodraethu Gwybodaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar: -
Rhifau Ffôn: 01495 765019 / 01495 765326 neu gyfeiriad e-bost: DPO.ABB@wales.nhs.uk
Eich pwynt cyswllt yw hwn, ar gyfer unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddio eich gwybodaeth.
Os nad ydych yn fodlon ar adolygiad sydd wedi ei gynnal gan y Swyddog Diogelu Data, yna cewch gysylltu â Swyddfa’r
Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan www.ico.org.uk