Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae Optometryddion yn ei wneud?

Mae optometryddion wedi'u hyfforddi i archwilio'r llygaid i ganfod diffygion yn y golwg, arwyddion o anaf, afiechydon llygadol neu annormaledd. Mae hyn yn galluogi optometryddion i reoli achosion yn annibynnol neu i adnabod achosion y gallai fod angen eu hatgyfeirio ymlaen, neu ofal ar y cyd, gyda’n cydweithwyr meddygol offthalmoleg. Bydd cleifion fel arfer yn gweld offthalmolegydd ymgynghorol yn gyntaf, i gael diagnosis ffurfiol, ac yna'n cael eu cyfeirio at optometrydd i gael gofal parhaus. Bydd cleifion eraill, er enghraifft plant sydd â strabismus, a elwir hefyd yn llygad croes, yn aml yn cael eu rheoli gan orthoptwyr ac optometryddion, yn gweithio fel tîm.