Neidio i'r prif gynnwy

Pa gymwysterau sydd gan Optometryddion?

Mae angen hyfforddiant cynhwysfawr a pherthnasol ar optometryddion er mwyn iddynt allu darparu safonau da o ofal llygaid. Rhaid i optometryddion gwblhau gradd prifysgol israddedig mewn optometreg. Bydd optometryddion sydd wedi symud ymlaen trwy eu hyfforddiant ac wedi dod yn Aelodau o Goleg yr Optometryddion yn cael defnyddio MCOptom ar ôl eu henw sy’n golygu bod disgwyl iddynt gadw at safon uchel o arfer clinigol. Rhaid i bob optometrydd sy'n ymarfer yn y DU gofrestru gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol , corff rheoleiddio'r proffesiwn. Ar ôl cofrestru, mae optometryddion yn cael y cyfle i gymryd cymwysterau pellach a datblygu eu diddordebau mewn meysydd ymarfer arbenigol.

 

Bydd gan rai optometryddion ddiddordebau arbennig a byddant yn cychwyn ar astudiaethau pellach er mwyn ennill cymwysterau arbenigol ychwanegol. Mae optometryddion sydd â chymwysterau rhagnodi annibynnol, er enghraifft, yn cael rhagnodi meddyginiaethau ar gyfer ystod o gyflyrau llygadol cyn belled â'i fod o fewn cwmpas eu hymarfer.