Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Plant

Croeso i'r adran Therapi Iaith a Lleferydd Plant. Bydd y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a’r cynorthwywyr yn eich helpu i reoli anhawster eich plentyn gyda lleferydd, iaith a chyfathrebu a/neu lyncu a gweithio gyda:

Babanod a all fod yn cael

  • anawsterau bwydo a llyncu

Plant a all fod yn cael

  • mân anawsterau dysgu , anawsterau cymedrol neu ddifrifol
  • anableddau corfforol
  • anghenion lleferydd, iaith, cyfathrebu
  • anhwylderau iaith datblygiadol
  • anawsterau penodol wrth gynhyrchu synau
  • nam ar y clyw
  • taflod hollt
  • atal dweud
  • anawsterau awtistiaeth/rhyngweithio cymdeithasol
  • llais cryg