Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd SLT

Gwybodaeth Gyrfa

Mae Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd wedi cyhoeddi canllaw gyrfa sy'n cynnwys gwybodaeth am yr hyn y mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn ei wneud, manylion am gyrsiau gradd cydnabyddedig a sut i ddod yn Therapydd Lleferydd ac Iaith. Am ragor o wybodaeth gallwch lawrlwytho Canllaw Gyrfa RCSLT neu ymweld â gwefan Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd .

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymwysterau, gofynion mynediad, lleoliadau a chynnwys cwrs, cysylltwch â chyflenwr y cwrs yn y brifysgol yn uniongyrchol i gael y wybodaeth hon.

 

Gwybodaeth i Fyfyrwyr sy'n Astudio Therapi Lleferydd ac Iaith ar Lefel Gradd

Fel rhan o'r cyrsiau Therapi Lleferydd ac Iaith, bydd y brifysgol lle rydych chi'n astudio yn trefnu lleoliadau profiad gwaith i chi.

Os yw'ch prifysgol wedi cytuno ar leoliad ar eich cyfer gyda Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cymerwch amser i ymgyfarwyddo â'n timau, dogfennau ac ati cyn i'ch profiad gwaith ddechrau. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon ar dudalennau Lleferydd ac Iaith y wefan hon.