Os byddwch yn rhedeg allan o feddyginiaeth bresgripsiwn ac yn methu â chael presgripsiwn cyn eich dos nesaf, efallai y byddwch yn gallu cael cyflenwad brys o fferyllfa.
Dylech fynd â hen bresgripsiwn/slip presgripsiwn rheolaidd neu'r pecyn meddyginiaeth gyda chi i'r fferyllfa, os yw’r rhain gennych.
Bydd angen i'r fferyllydd wirio:
Mae angen i'r fferyllydd wybod yr atebion i'r cwestiynau hyn cyn y gallant roi cyflenwad brys o feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig. Byddant yn cadw cofnod o'ch manylion, y feddyginiaeth a ddarperir ganddynt a natur yr argyfwng. Bydd y fferyllydd hefyd yn rhoi gwybod i'ch meddyg teulu bod cyflenwad brys wedi'i roi.
Mewn rhai achosion, efallai na fydd y fferyllydd yn gallu rhoi cyflenwad oherwydd y math o feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch a gofynion y gwasanaeth. Os felly, bydd y fferyllydd yn esbonio unrhyw opsiynau eraill sydd ar gael i chi.
Bydd y fferyllydd fel arfer yn cyflenwi digon o feddyginiaeth er mwyn rhoi amser i chi gael presgripsiwn, ond mewn rhai achosion, dim ond pecyn o faint penodol y bydd yn gallu ei roi i chi ee y tiwb lleiaf o eli neu un ffiol o inswlin.
Mae'r gwasanaeth yn dibynnu ar set o ofynion cyfreithiol i ganiatáu fferyllwyr i roi cyflenwadau, ac ni ellir cyflenwi rhai meddyginiaethau, megis poenladdwyr cryf. Fodd bynnag, hyd yn oed yn y sefyllfa hon, fferyllydd yw'r person gorau i siarad â hwy.
I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru a dewiswch 'cyflenwad brys o feddyginiaeth' o'r rhestr hidlo ar yr ochr chwith.