Archebwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig - mae tua £9.6 miliwn yn cael ei wastraffu bob blwyddyn yng Ngwent ar bresgripsiynau nad ydynt yn cael eu defnyddio neu bresgripsiynau nad oes eu hangen. Mae angen eich help arnom i leihau hyn.
Cadw'n Iach - Mae meddyginiaethau heb eu defnyddio yn dod i ben ac efallai na fyddant yn gweithio fel y bwriadwyd. Golyga hyn y gallai eich gofal gael ei beryglu. Mae pentyrru meddyginiaethau yn gwneud y sefyllfa o ran prinder cyffuriau yn waeth.
Cadw'n Ddiogel - Gall cadw pentwr o feddyginiaethau gartref beryglu plant ac anifeiliaid anwes. Mae meddyginiaethau yn cael eu presgripsiynu ar eich cyfer chi yn unig ac am resymau diogelwch ni ddylid eu rhannu ag unrhyw un arall.
Bod yn Wyrdd - Pan fyddwch chi'n cael gwared ar feddyginiaethau yn y ffordd gywir, trwy eu rhoi i'ch fferyllfa, rydych chi'n helpu i sicrhau nad yw gwastraff meddyginiaethau yn llygru ein hafonydd a'n moroedd. Mae archebu'r hyn sydd ei angen arnoch yn unig yn golygu eich bod yn helpu'r amgylchedd oherwydd unwaith y bydd meddyginiaethau wedi gadael y fferyllfa, ni all neb arall eu hailgylchu na'u defnyddio.
Y newyddion da yw bod llawer y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â gwastraff meddyginiaethau, a gall pawb chwarae rhan.
Diolch am helpu'ch cymuned i leihau gwastraff meddyginiaeth.
Archebwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig - Gwiriwch pa feddyginiaethau sydd gennych gartref cyn i chi archebu eich presgripsiwn amlroddadwy. Os oes gennych ddigon, gofynnwch am y meddyginiaethau sydd eu hangen arnoch y tro hwn yn unig. Byddwch yn dal i allu archebu eraill eto yn y dyfodol. Siaradwch â'ch tîm fferyllfa os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i newid eich cais am bresgripsiwn.
Agorwch eich bag presgripsiwn - Gwiriwch eich bag presgripsiwn cyn gadael y fferyllfa i wneud yn siŵr mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch sydd ynddo a sicrhau nad oes unrhyw beth ychwanegol ynddo. Os byddwch yn dychwelyd eitem cyn i chi adael y fferyllfa, gellir ailddefnyddio'r meddyginiaethau.
Lleihau gwastraff gyda sgwrs - Gadewch i'ch tîm fferyllfa wybod os ydych chi wedi rhoi'r gorau i gymryd unrhyw un o'ch meddyginiaethau neu os nad ydynt bellach yn iawn i chi. Nid yw hyn yn broblem, ac mewn gwirionedd, mae'n golygu y bydd eich tîm yn gallu gwella eich gofal iechyd.