Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych chi'n poeni am les emosiynol ac iechyd meddwl eich plentyn, yn y lle cyntaf, gofynnwch am gyngor gan y naill neu'r llall:

  • eich meddygfa
  • ysgol eich plentyn neu berson ifanc
  • unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol, addysgol neu ofal cymdeithasol arall sydd eisoes yn ymwneud â'ch teulu

Bydd yr holl atgyfeiriadau sy'n ymwneud â lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc (gan gynnwys atgyfeiriadau i CAMHS) a fydd rhaid i cyfeirio i 'SPACE-Wellbeing', y Pwynt Mynediad Sengl ar gyfer Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant. Mae 'SPACE-Wellbeing' Gwent gyfan ar draws bwrdeistrefi Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Chaerffili.


I gael mwy o wybodaeth am gyfeirio at CAMHS trwy 'SPACE-Wellbeing', ewch i wefan Iachach Gyda'n Gilydd.

Os derbynnir eich atgyfeiriad ar gyfer S-CAMHS, gallwch ddisgwyl clywed gennym yn eich gwahodd i optio i mewn os hoffwch dderbyn apwyntiad gyda'n gwasanaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i CAMHS weld yr holl blant a phobl ifanc o fewn 28 diwrnod i'r atgyfeirio.

Mae pobl ifanc a oedd wedi bod yn hysbys yn flaenorol i CAMHS a dderbyniodd Gynllun Gofal a Thriniaeth o dan y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn gallu hunangyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl oedolion ar ôl 18 oed; mae'r llwybr hunan-atgyfeirio hwn yn ddilys am gyfnod o tair mlynedd yn unig o'r dyddiad y rhyddhawyd o CAMHS. Ar ôl y cyfnod hwn, rhaid cyfeirio atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl oedolion trwy eich meddygfa.

 
Sut allwn ni helpu ein plentyn / person ifanc?