Mae optegwyr stryd fawr a elwir hefyd yn Optometryddion yno ar gyfer anghenion iechyd llygaid yn y gymuned, mae gofal y llygaid yng Nghymru wedi newid ac mae bellach yn haws cael mynediad at wasanaethau iechyd y llygad yn nes at y cartref.
Ym mis Hydref 2023 disodlwyd Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol (GOS [W]) gan Wasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS). Bydd pob optegydd stryd fawr yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau’r GIG yn darparu gwasanaethau WGOS 1 a 2.
Mae Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru yn cynnwys nifer o wahanol wasanaethau gan gynnwys:
Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl am eich llygaid, dylech weld Optometrydd ar unwaith. Byddant yn dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael archwiliad iechyd y llygad am ddim. Gelwir yr archwiliad hwn yn Archwiliad ar gyfer Problemau Llygaid Brys ac mae hwn ar gael o dan Wasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS).
Fel rhan o archwiliad ar gyfer problem y llygaid brys bydd yr Optometrydd yn archwilio eich llygaid yn ofalus i weld a oes unrhyw beth o'i le. Bydd y profion a'r offer y byddant yn eu defnyddio yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthynt a'r hyn y byddant yn ei ddarganfod. Mae archwiliad llygaid ar gyfer problem llygaid brys yn fwy manwl nac archwiliad llygaid arferol, ac yn wahanol felly gall gymryd mwy o amser. Os bydd yr Optometrydd yn penderfynu bod angen archwiliad arnoch am broblem frys gyda'r llygaid, ni fydd yn costio dim i chi.
Gallwch ddod o hyd i Optometrydd ar y rhan fwyaf o Strydoedd Mawr Cymru. Os oes gennych chi broblem golwg, gallwch fynd at eich Optometrydd presennol (os oes gennych chi un), neu ffonio, neu gerdded i mewn i unrhyw bractis sy'n gyfleus i chi.
Catherine McNamara, Optometrydd Gofal Sylfaenol a Chynghorydd Optometrig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n esbonio mwy am y Gwasanaeth Gofal Llygaid Brys yn y fideo byr hwn
I gael rhagor o wybodaeth am WGOS a’r math o wasanaethau sydd ar gael ewch i wefan Gofal Llygaid Cymru – GIG Cymru
Os oes gennych broblem y tu allan i oriau gwaith arferol, ffoniwch 111 am gyngor.
Gall fferyllwyr drin llid yr amrannau (bacteriol) a llygad sych o dan y cynllun anhwylderau cyffredin. Gweler y dudalen ganlynol am ragor o wybodaeth: Pharmacies - Aneurin Bevan University Health Board.