Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i Uned Mân Anafiadau

O Ddydd Llun 6 Mai 2024 (oriau mân Dydd Mawrth 7 Mai), bydd rhai newidiadau i oriau agor ein Hunedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr.

Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd i ofyn am adborth ar ddarpariaeth ein gwasanaethau Mân Anafiadau, ein nod oedd sicrhau'r darpariad mwyaf posibl i wasanaethau lleol a sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

O ganlyniad i'r ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r Bwrdd Iechyd bellach wedi cyflwyno'r amseroedd agor diwygiedig canlynol ar gyfer ein Hunedau Mân Anafiadau:

 

Ysbyty Nevill Hall,

Y Fenni

Ar agor 18 awr bob dydd rhwng 7.00yb a 1.00yb, saith diwrnod yr wythnos

 

Ysbyty Ystrad Fawr,

Ystrad Mynach

 

Ar agor 18 awr bob dydd, rhwng 7.00yb a 1.00yb, saith diwrnod yr wythnos

 

Ysbyty Aneurin Bevan,

Glyn Ebwy

Ar agor am 10 awr, rhwng 9.00yb a 7.00yp,

Dydd Llun i Ddydd Gwener [ac eithrio gwyliau banc] (Heb newid)

 

Ysbyty Brenhinol Gwent,

Casnewydd

Ar agor 24 awr, saith diwrnod yr wythnos (Heb newid)

 

 

Y tu allan i oriau agor yr Unedau Mân Anafiadau yn Y Fenni, Ystrad Mynach a Glyn Ebwy, mae gwasanaeth Mân Anafiadau 24 awr yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Yn ogystal, gellir cysylltu â'r gwasanaeth 111 Cymru 24 awr y dydd ar gyfer ymholiadau a chyngor am fân anafiadau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithredu nifer o Unedau Mân Anafiadau, sy'n trin anafiadau nad ydynt yn peryglu bywyd nag aelodau. Maent yn cael eu harwain a'u darparu gan Ymarferwyr Nyrsio Brys hyfforddedig arbenigol, sy'n gallu gweithio'n annibynnol a thrin amrywiaeth o anafiadau mewn oedolion a phlant dros flwydd oed.

 

Mae'r Unedau Mân Anafiadau yn rhan bwysig o wasanaeth Gofal Brys cyffredinol y Bwrdd Iechyd, gyda'n hysbytai wedi'u ffurfweddu fel bod:

  • Ein Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor (Cwmbrân) yn darparu gofal critigol a thriniaeth frys, megis ar gyfer salwch ac anafiadau sy'n peryglu bywyd neu aelodau.
  • Ein hunedau mân anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent (Casnewydd), Ysbyty Nevill Hall (Y Fenni), Ysbyty Ystrad Fawr (Ystrad Mynach) ac Ysbyty Aneurin Bevan (Glyn Ebwy) yn trin mân anafiadau, megis esgyrn wedi torri; mân losgiadau; ac anafiadau llygaid, clust a thrwyn. Nid ydynt yn trin afiechydon nac anafiadau sy'n peryglu bywyd ac aelodau.

 

Mae'r defnydd o'n Unedau Mân Anafiadau yn amrywio'n fawr yn ystod eu horiau agor - er enghraifft, ychydig iawn o weithgaredd sydd yn y nos, a dyna pam yr aethom ati yn ddiweddar i  gynnal ymarfer ymgysylltu cyhoeddus cynhwysfawr i sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithlon i ateb y galw. Cawsom adborth gwerthfawr gan bobl, a hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd ac a fynegodd eu barn.

Rydym yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan lawer o bobl ac rydym wedi cymryd amser i wrando, deall a rhoi mesurau ychwanegol ar waith o ganlyniad, megis sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd am ein holl wasanaethau Gofal Brys a sut i gael y budd mwyaf o'r rhain.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am waith ein Hunedau Mân Anafiadau, cysylltwch â ni yn ABB.Enquiries@wales.nhs.uk