Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Brenhinol Gwent

Heol Caerdydd
Casnewydd
NP20 2UB
 
Ffôn: 01633 234234

Sylwch- nid oes Adran Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Rhaid i argyfyngau sy'n bygwth bywyd fynd i Ysbyty Athrofaol Y Faenor.

Mae Ysbyty Brenhinol Gwent yn parhau i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i drigolion Gwent a De Powys. Mae'n darparu ystod eang o wasanaethau a bydd yn canolbwyntio ar ddarparu gofal cyffredinol ac arferol, gan gynnwys:

 

  • Uned Mân Anafiadau dan arweiniad nyrs 24/7
  • Llawfeddygaeth wedi'i Chynllunio a gofal ar ôl i chi gael anesthetig cyffredinol
  • Uned Asesu Meddygol
  • Llawfeddygaeth Wedi'i Gynllunio a gofal ar ôl i chi gael anesteteg cyffredinol.
  • Gwasanaethau Adsefydlu a Therapi - Gwasanaethau fel Ffisiotherapi a Lleferydd ac Iaith
  • Gwasanaethau Diagnostig - Asesiadau, Sganiau a Phelydrau-X sydd eu hangen ar gyfer ymchwiliadau gan gynnwys sganiau MRI a CT
  • Amrywiaeth eang o Glinigau Cleifion Allanol Arbenigol
  • Uned Eiddilwch Gwell ar gyfer gofalu am bobl hŷn
  • 371+ o welyau Cleifion Preswyl
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol Plant
  • Gwasanaethau Mamolaeth

 

Darperir Gofal am Fân Anafiadau gan Uned Mân Anafiadau Ysbyty Brenhinol Gwent, sy'n cael ei rhedeg gan ein Ymarferwyr Nyrsio Brys.  Mae Ymarferwyr Nyrsio Brys yn Weithwyr Clinigol Proffesiynol profiadol sy'n arbenigo mewn rheoli Mân Anafiadau.

Byddant yn gallu eich trin os oes gennych asgwrn wedi torri, ysigiad, clais, clwyf, llosg bach, brathiad, neu fân anaf i'r llygad neu'r pen a llawer o anafiadau eraill. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae Ysbyty Athrofaol y Faenor yn darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer ein cleifion mwyaf difrifol sâl neu'r rhai ag anafiadau sylweddol a hwn yw'r Uned Drawma Ddynodedig ar gyfer Gwent. Mae'n debygol, os bydd angen i chi gael gofal yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, y cewch eich cyfarwyddo yno gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol neu eich cludo yno ar ôl ffonio 999.

 

Beth yw Uned Asesu Meddygol?

Os oes gennych argyfwng meddygol neu salwch difrifol y mae angen ei ddiagnosio, yna cewch eich cyfeirio at un o'n Unedau Asesu Meddygol. Bydd Meddygon sy'n gweithio yn y cyfleusterau hyn yn cynnal profion ac yn eich asesu cyn penderfynu ar y cwrs triniaeth gorau i chi. Ni allwch gerdded i mewn i Uned Asesu Meddygol - mae angen i chi gael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu, parafeddyg, neu weithiwr proffesiynol meddygol arall.

Mae'r rhan fwyaf o'n cleifion sy'n cael eu cyfeirio at Uned Asesu Meddygol yn mynd adref ar yr un diwrnod. Bydd y rhai sydd angen eu derbyn i'r Ysbyty i gael gofal pellach yn cael eu symud i un o'n Wardiau. Efallai y bydd rhai cleifion yn symud i Ysbyty gwahanol i dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt.

 

Gofalu am Blant

Mae gan Ysbyty Brenhinol Gwent Adran Cleifion Allanol bwrpasol ar gyfer plant a fydd yn darparu man chwarae i apwyntiadau clinig.

Bydd gofal brys i blant o dan flwyddyn oed yn digwydd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Dylai plant dros flwyddyn oed barhau i fynd i Ysbyty Brenhinol Gwent am fân anafiadau.

Gwasanaethau Mamolaeth

Ar gyfer gofal cyn ac ar ôl genedigaeth, mae Ysbyty Brenhinol Gwent yn darparu clinigau cynenedigol ac ôl-enedigol dan arweiniad ymgynghorwyr a bydwragedd. 

Am fwy o wybodaeth am opsiynau geni sydd ar gael, ewch i Ymgysylltiad 12 Wythnos Gwasanaethau Mamolaeth.

 

Cael y gofal iawn i chi

Os bydd eich iechyd yn dirywio tra'ch bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent a bod angen mynediad at yr Arbenigwyr neu'r Gofal Critigol a ddarperir yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, byddwn yn eich trosglwyddo yno trwy ein gwasanaeth cludo cleifion pwrpasol.

 
Darganfyddwch fwy am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael yn Ysbyty Brenhinol Gwent:
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Gwasanaeth Cwsg
  • Llawfeddygaeth a Gweithdrefnau Arferol
  • Gofal Asthma
  • Ocsimetreg Pwls
  • Profi Swyddogaeth yr Ysgyfaint
  • Clinig Mynediad Cyflym Canser
  • Gwelyau Cleifion Preswyl Cyffredinol
  • Broncosgopi
  • Gweithdrefnau Plewrol
  • Clefyd rhyng-gysylltiedig yr Ysgyfaint (ILD)
  • Clinig Ocsigen
  • Gwasanaeth TB
  • Gwasanaeth COPD
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Diagnosteg
  • Mewn-Gyrraedd (In-Reach) Ymgynghorydd
  • Clinigau Methiant y Galon
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Llawfeddygaeth a Gweithdrefnau Arferol
  • Llawdriniaeth Achos Dydd
  • Gwelyau Cam i Lawr
  • Gwasanaethau Awdioleg Arbenigol
  • Gwelyau Cleifion Preswyl
  • Mewn-Cyrraedd (In-Reach) Unedau Asesu/ Gofal Symudol a Wardiau
  • Clinigau Cleifion Allanol
  • Pelydrau-X
  • Sganiau CT
  • Sganiau MRI
  • Mamograffeg
  • UwchSain
  • Meddygaeth Niwclear
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Uned Ddewisol
  • Gwelyau 'Cam i Lawr' i Gleifion Preswyl
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Darpariaeth Achos Dydd
  • Llawdriniaethau a Weithdrefnau arferol
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Llawfeddygaeth a Gweithdrefnau Arferol - Endosgopi Dewisol
  • Uned Gofal Symudol Gastro
  • Gwasanaethau Endosgopi
  • Gwasanaeth Trwyth
  • Mewn-Cyrraedd (In-Reach)
  • Mân Anafiadau
  • Uned Asesu Meddygol (gan gynnwys Ward Arhosiad Byr)
  • Diagnosteg
  • Clinigau Torri Esgyrn
  • Allgymorth Gofal Critigol
  • Gweithrediadau wedi'u Drefnu (Dewisol)
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Gwelyau Cleifion Preswyl
  • Uned Asesu Meddygol ac Eiddilwch yr Henoed
  • Clinigau Cleifion Allanol
  • Amrywiaeth eang o glinigau Cleifion Allanol arferol
  • Diagnosteg (Trwy Unedau Mân Anafiadau yn y dyfodol ar gyfer plant dros flwyddyn oed)
  • Llawfeddygaeth achos diwrnod dewisol (e.e. Tonsilectomi/ Adenoidectomi)
  • Fflebotomi
  • Colposgopi Pediatreg
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Llawfeddygaeth a Gweithdrefnau Arferol
  • Gwasanaethau Iechyd Rhywiol
  • Uwchsain
  • Llawdriniaeth Wrogynaecoleg
  • Achosion Dydd
  • Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar
  • Gwasanaeth Cyswllt Argyfwng Oedolion
  • Gwasanaeth Oedolion Hŷn
  • Gwasanaeth Cyswllt Anableddau Dysgu
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Llawfeddygaeth a Gweithdrefnau Arferol
  • Gofal Cynenedigol
  • Gofal Ôl-enedigol
  • Meddygaeth Cynenedigol a Ffetws
  • Clinigau Newyddenedigol
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Llawfeddygaeth a Gweithdrefnau Arferol
  • Llawdriniaeth cymhleth
  • Llawdriniaeth Argyfwng 24/7
  • Haematoleg
  • Biocemeg
  • Profi ar Bwynt o Oofal
  • Ceulo
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Mewn-Cyrraedd (In-Reach)
  • Gwasanaethau Cleifion Allanol Arferol
  • Diagnosteg
  • Clinigau Torri Lleol
  • Llawfeddygaeth Arferol
  • Gweithdrefnau Arferol
  • Llawfeddygaeth a Ward Ddewisol (ar gyfer cleifion sydd angen aros dros nôs)
  • Llawfeddygaeth Achos Diwrnod Dewisol
  • Clinigau Dewisol
  • Ymateb y tu allan i Oriau ar gyfer y Pen a'r Gwddf
  • Apwyntiadau Cleifion Allanol
  • Llawfeddygaeth a Gweithdrefnau Arferol
  • Cystosgopi Hyblyg
  • Achosion Dydd

Teithio, Parcio a Chyfleusterau

Map safle newydd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd

Mae'r Ysbyty Cyffredinol Dosbarth hwn, gyda mwy na 3,400 o staff a thua 774 o welyau, yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau ysbyty ar gyfer claf mewnol, achosion dydd a chleifion allanol.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ei gyfanrwydd yn gwasanaethu poblogaeth o fwy na 600,000 ac mae llawer o'r gwasanaethau cleifion mewnol ac arbenigol yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn cefnogi'r dalgylch cyfan. Defnyddir gwasanaethau cleifion allanol yn bennaf gan y rhai yng Nghasnewydd a'r ardal gyfagos.

Mae cynnig yn cael ei drafod a fyddai’n gwneud yr ysbyty yn is-Ddeoniaeth Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Mae'r cynnig hwn yn adeiladu ar y cysylltiadau sylweddol sydd eisoes yn bodoli rhwng Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Athrofaol Cymru, gyda nifer o benodiadau ar y cyd mewn llawer o adrannau clinigol.

Mae'r ysbyty, ynghyd ag Ysbyty Gwynllyw, yn cael ei wasanaethu gan yr Adran Gwasanaethau Gweithredol.

Mae parcio cyfyngedig a pharcio Bathodyn Glas ar gael ar dir yr ysbyty am ddim. Mae ardaloedd 'gollwng' hefyd ar gael pe bai angen i chi ollwng rhywun yn yr ysbyty cyn i chi gael lle parcio. Bydd y staff ym mlaen yr ysbyty yn gallu eich cyfarwyddo.
 
Mae parcio ychwanegol ar gael ac yn hygyrch trwy Ffordd Mendalgief. I gael mynediad i Ffordd Mendalgief, gan deithio i ffwrdd o ganol y ddinas, parhewch i fynd heibio Ysbyty Brenhinol Gwent (ar eich ochr dde), cadwch yn y lôn chwith, fe ddewch at set o oleuadau. Trowch i'r chwith wrth y goleuadau a chymryd yr ail chwith i mewn i faes parcio Mendalgief. Os yw'r maes parcio hwnnw'n llawn, ewch i ddiwedd y maes parcio i'r allanfa, trowch i'r dde a mynd i ben y ffordd. Yn union gyferbyn fe welwch y fynedfa i Faes Parcio 'Whiteheads' sydd hefyd ar gael i ymwelwyr yr ysbyty.
 
Gan deithio o gyfeiriad Parc Tredegar yr M4, ewch ymlaen ar hyd Ffordd Caerdydd gyda Pharc Belle Vue ar eich chwith. Wrth y goleuadau traffig, cadwch at y lôn dde. Trowch i'r dde, yna ail i'r chwith i mewn i faes parcio Ffordd Mendalgief.
 

Ffordd Caerdydd
Casnewydd
NP20 2UB

Mae Ysbyty Brenhinol Gwent ar gyrion gorllewinol Canol Tref Casnewydd ar brif ffordd yr A48 i Gaerdydd.

Mewn Car: Edrychwch ar Google Maps am gyfarwyddiadau.

Ar Fws: Edrychwch ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd i gael gwybodaeth am amserlenni bysiau a chynllunwyr teithiau.

Mae bwytai ar hyn o bryd yn Staff yn Unig

Oherwydd cyngor y Llywodraeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau eraill a osodwyd o amgylch Covid-19, yn anffodus bu’n rhaid gwahardd pob ymwelydd ac aelod o’r cyhoedd rhag defnyddio’r cyfleusterau bwytai ym mhob un o’n hysbytai.

Rydym yn gresynu'n fawr at yr anghyfleustra y gall hyn ei achosi i ymwelwyr a chleifion allanol sy'n mynychu ysbytai. Fodd bynnag, teimlwn yn siŵr y byddwch yn deall bod y mesurau hyn yn hanfodol i amddiffyn ein gweithwyr rheng flaen yn y GIG rhag y risg o haint yn y gymuned.

Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth ar yr adeg hollbwysig hon.

 

Coffi Costa ar lefel 1, Bloc D - Ar agor 07:00 i 21:30 Dydd Llun - Dydd Gwener a 10:00 - 20:30 Dydd Sadwrn a Dydd Sul (Bwyd poeth, byrbrydau, a lluniaeth.)

Bloc Bwyty Belle Vue lefel 3 "B" - Ar agor 7:30 i 20:00 (Bwydlen bwyd poeth llawn). Mae siop yn ffinio ar gyfer gwerthu papurau newydd a manion.

Mae gwasanaethau troli i'r wardiau ddwywaith y dydd yn gwerthu papurau newydd a manion.

Mae Caplaniaid Ysbyty yn ymweld â phob ward yn rheolaidd. Gellir gwneud trefniadau i arweinwyr crefyddol eraill ymweld.