Allgymorth Gofal Critigol
Agorwyd Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Neuadd Nevill (Nevill Hall) ym 1969 ac mae'n darparu gwasanaethau cleifion mewnol, achosion dydd a chleifion allanol ynghyd ag ystod gyflawn o ymchwiliadau.
Ar benwythnosau mae cyfleusterau'r Adran Cleifion Allanol yn cael eu defnyddio gan feddygon teulu lleol ar gyfer cynnal eu Meddygfeydd.
Mae'r adrannau unigol canlynol wedi cyflawni gwobrau:
Byddwch yn ymwybodol bod y diffyg capasiti parcio ceir yn broblem sylfaenol yn Ysbyty Neuadd Nevill ac yn anffodus, ni ellir gwarantu lle parcio gwag i unrhyw un sy'n ymweld â'r safle. Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio datrys y broblem hon i geisio lleddfu'r pwysau. Yn y cyfamser, rydym yn argymell lle bo hynny'n ymarferol, bod cleifion yn cael eu gyrru neu fynd gyda nhw wrth fynychu apwyntiad; gellir defnyddio'r man gollwng ger y Brif Fynedfa i ollwng cleifion cyn i yrwyr ddod o hyd i le parcio. Fel arall, gellir defnyddio'r cyfleuster trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gyrru i mewn ac allan o'r safle er hwylustod cleifion ac ymwelwyr.
Ysbyty Neuadd Nevill
Ffordd Aberhonddu
Y Fenni
NP7 7EG
Mewn Car: Edrychwch ar Google Maps am gyfarwyddiadau.
Mewn Bws: Gweld: Amseroedd Bysiau
Mae caffi yn y brif adran cleifion allanol yn cael ei redeg gan Gynghrair y Cyfeillion ac mae ar agor 10:00 - 16:00
Mae siop yn y prif gyntedd yn cael ei rhedeg gan y WRVS ac yn agor 10:00 - 18:00
Mae'r ystafell fwyta ar y llawr cyntaf ar agor ar gyfer prydau poeth. (Brecwast - 7:00 - 11:00 a Chinio / Dinner - 12:00 canol dydd - 18:30). Mae peiriannau gwerthu diodydd a byrbrydau ar gael bob amser arall, yn y lolfa goffi oddi ar yr ystafell fwyta.
Gwasanaethau troli i’r wardiau yn darparu rhai llyfrau, pethau ymolchi, papurau newydd ac ati.
Mae caplaniaid yr ysbyty (Anglicanaidd/Eglwys Rydd/RC) yn ymweld â wardiau yn rheolaidd, gellir gwneud trefniadau ar gyfer ymweliadau allanol gan glerigwyr.
Mae ward fach ar gael i gleifion preifat.
Lle nad yw Patientline ar gael, mae ffôn symudol ar gyfer galwadau sy'n mynd allan, ac fel arfer lolfa gyda theledu.