Rydym wrth ein bodd bod gwaith wedi hen ddechrau ar yr Uned Radiotherapi newydd gwerth £38 miliwn yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, a fydd yn agor yn haf 2025. Bydd yr uned bwrpasol yn cynnig cyfleuster trin canser ychwanegol yn Ne Ddwyrain Cymru, gan gynyddu'r gallu i ddarparu gwasanaethau radiotherapi i gleifion ar draws y rhanbarth.