Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Athrofaol Y Faenor

 
 
Mae ein Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol newydd- Ysbyty Athrofaol y Faenor- yn darparu Canolfan Ragoriaeth yng Ngwent i drin ein cleifion mwyaf difrifol wael, neu'r rhai ag anafiadau sylweddol, a hi yw'r Uned Drawma ddynodedig ar gyfer Gwent. Mae gan yr Ysbyty, sydd yn Llanfrechfa, Cwmbran, 560 o welyau a bydd yn cynnwys Uned Asesu Acíwt 24 awr, Adran Achosion Brys a Phad Hofrennydd. Mae'n darparu Gwasanaeth Brys 24/7 i gleifion sydd angen gofal arbenigol a chritigol.
 
 
Mae Hysbyty Athrofaol y Faenor yn darparu gofal i bobl sy'n ddifrifol sâl neu sydd â phroblemau neu gyflyrau cymhleth na ellir eu rheoli'n ddiogel yn un o'n Ysbytai Cyffredinol Lleol. Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael yn Ysbyty Athrofaol y Faenor:
 
  • Derbyniadau brys ar gyfer salwch ac anafiadau mawr a'r rhai sydd angen dadebru
  • Llawfeddygaeth Frys a gofal Trawma
  • Llawfeddygaeth Mawr a Chyd-forbidrwydd (mwy nag un cyflwr difrifol)
  • Uned Asesu Brys
  • Gofal Critigol
  • Uned Cardiaidd Acíwt
  • Cleifion Preswyl Cardioleg
  • Gofal Strôc Acíwt
  • Meddygaeth Acíwt
  • Cleifion Preswyl Obstetreg a Genedigaethau risg uchel
  • Uned Asesu Plant