Credwn fod angen i ni gynllunio dyfodol Gwent gyda'n gilydd. Rydym wedi ymrwymo i wrando a gweithredu ar yr hyn y mae ein cymunedau, ein staff, a'n partneriaid yn ei ddweud.
Dyma pam y gwnaethom siarad â bron i 7,000 o bobl gan ofyn y cwestiwn: Beth sy'n bwysig i chi deimlo'n iach?
Mae'r adborth a'r mewnwelediad a gasglwyd wedi ein galluogi i ddeall ble dylai ein ffocws fod yn ystod y 10 mlynedd nesaf ac, yn y pen draw, mae wedi ein helpu i greu'r strategaeth hon: Gwent 35.