Gwneud yr hyn sy'n iawn, gyda'n gilydd!
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd a'r gofal a ddarparwn.
Mae ein gwerthoedd yn llunio sut rydym yn gofalu a sut rydym yn gweithio. Maent yn ein helpu i adeiladu diwylliant o garedigrwydd, gonestrwydd a pharch – i’n gilydd a’r rhai rydym yn eu gwasanaethu.
Nid yw ein gwerthoedd yn ddewisol. Maent yn hanfodol i bopeth a wnawn - o ochr y gwely i'r ystafell fwrdd. Gyda'n gilydd, rydym yn gwneud yr hyn sy'n iawn i'n cleifion, ein cydweithwyr, a'n cymunedau.
"Mae'r gwerthoedd hyn yn fwy na geiriau, maent yn cynrychioli pwy ydym ni, sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd, a'r diwylliant yr ydym am ei greu ar gyfer ein cleifion, ein cydweithwyr a'n cymunedau. Drwy fyw'r ymddygiadau hyn bob dydd, rydym yn cryfhau ein hymrwymiad i ragoriaeth, tosturi a chydweithio."
Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol