Beth yw Hyrwyddwr Gwasanaeth?
Unigolion yw’r rhain sy’n hyrwyddo dros gymuned y Lluoedd Arfog o fewn eu sefydliad. Drwy hyfforddi a datblygu, maent yn deall diwylliant cymuned y lluoedd arfog ac yn defnyddio hyn i lunio eu gwasanaethau.
Mae’r hyfforddiant a ddarperir ar gyfer yr unigolion yn eu helpu i:
Ar gyfer pwy mae'r hyfforddiant hwn?
Mae’r hyfforddiant hwn ar agor i unrhyw aelodau o staff y GIG sy’n dymuno deall pam ddylai sefydliadau gefnogi’r gwaith, pa gymorth a chefnogaeth all fod yn berthnasol i unigolion, pa adnoddau sydd ar gael a pham mae angen Rhwydweithio ag eraill yn eich ardal.
Pryd mae'r hyfforddiant?
Cyflwynir yr hyfforddiant DPP achrededig drwy MS Teams ac mae wedi’i ddylunio ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn helpu eu gwasanaeth/sefydliad i ddod yn fwy ymwybodol o gymuned y Lluoedd Arfog.
Cynhelir yr hyfforddiant ar y dyddiadau canlynol o 09:30 i 15:00 ac mae modd i chi archebu eich lle YMA neu gallwch GYSYLLTU Â NI os hoffech gael eich rhoi ar ein rhestr bostio yn barod erbyn yr adeg pan fydd dyddiadau newydd wedi’u trefnu.
MS Teams - Dydd Mercher 21 Mehefin 2023
MS Teams - Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 2023
MS Teams - Dydd Mawrth 22 Awst 2023
MS Teams - Dydd Iau 28 Medi 2023
MS Teams - Dydd Mercher 18 Hydref 2023
MS Teams - Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023
MS Teams - Dydd Iau 14 Rhagfyr 2023
MS Teams - Dydd Mercher 17 Ionawr 2024
MS Teams - Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024
MS Teams - Dydd Iau 21 Mawrth 2024
Anfonir pecyn adnoddau gyda’ch tystysgrif atoch ar ôl cwblhau’r hyfforddiant felly mae’n bwysig eich bod yn nodi’r cyfeiriad postio gorau ar eich cyfer. Bydd unrhyw gyfeiriad postio a nodir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion dychwelyd y pecyn yn unig ac ni fydd yn cael ei gadw gan y Rhwydwaith.