Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydych chi wedi dweud wrthym?

Mae eich adborth yn bwysig i ni. Hoffwn ni glywed am brofiadau pobl: da, drwg a phopeth arall. Mae rhai enghreifftiau o’r adborth y mae rhai o’n cymunedau wedi’i roi i ni i’w gweld yma:

 

Llyfrgell Rhisga 05/12/2022 – “Diolch yn fawr iawn i’r adran Wroleg yn Ysbyty Brenhinol Gwent am drin canser y brostad fy ngŵr. Roedd y driniaeth a gafodd yn wych ac mae'r staff yn hollol rhyfeddol.”

 

Llyfrgell Treftadaeth y Byd Blaenafon 06/01/2023 – “Bu’n rhaid i fy merch a minnau aros yn hir i gael ein trin yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, fodd bynnag, pan gawsom ein trin, roeddem yn falch o gael diagnosis cywir gan y staff anhygoel sy’n gweithio yno."

 

Fforwm 50+ Casnewydd 28/11/2022 – “Mae system frysbennu ardderchog ar waith ym Mhractis Meddygol Sain Ffraid yn Nyffryn sy’n golygu y gall unrhyw un sydd angen apwyntiad wyneb yn wyneb gael apwyntiad yr un diwrnod.”