Neidio i'r prif gynnwy

Sgyrsiau

 

Mae'r tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn rhoi sgyrsiau i grwpiau fel Fforymau 50+ yn rheolaidd; SyM; Clybiau Rotari, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (wedi ymddeol) a Grwpiau Hyb Cymunedol.

 

Gall y tîm ddarparu gwybodaeth am brosiectau a gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd, er enghraifft:

**Cyrchu Gwasanaethau Gofal Iechyd fel ein Hadran Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau

**Gwasanaethau Gofal Sylfaenol gan gynnwys Gwasanaethau Anhwylderau Cyffredin

**Diweddariadau am y datblygiadau diweddaraf

**Gwasanaethau penodol fel Iachach Gyda’n Gilydd, Melo, Gwent yn Symud yn Well

Os ydych chi'n gysylltiedig â grŵp, busnes neu sefydliad ac y byddech yn awyddus i’r tîm ddod draw i gyflwyno sgwrs, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r dulliau canlynol:

E-bost: ABB.Engagement@wales.nhs.uk

Rhif ffôn: 01633 431890

Bydd aelod o’r tîm wedyn mewn cysylltiad i drafod yr hyn y gallwn ei wneud er mwyn teilwra sesiwn i anghenion y grŵp.