Neidio i'r prif gynnwy

Fforwm Iechyd Cymunedau Amrywiol

 

Mae’r Fforwm Iechyd Cymunedau Amrywiol wedi bodoli ers mis Ionawr 2020 ac mae wedi parhau i gyfarfod bob hyn a hyn drwy gydol y flwyddyn, gyda chyfarfodydd bellach yn cael eu cynnal bob chwarter.

Hyd yn hyn

Hyd yma, mae tîm Ymgysylltu’r Bwrdd Iechyd wedi cyflawni’r canlynol:

  • Trefnu sesiynau cymunedol pwrpasol ar gyfer y Gymuned Roma yng Nghasnewydd ar y cyd â Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

  • Cefnogi’r sefydliad Kidcare4u gyda sesiynau pwrpasol ar gyfer grwpiau merched a phresenoldeb mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Pill.

  • Cymryd rhan mewn Digwyddiad Iechyd ar gyfer cymunedau amrywiol ym mis Medi 2022 yn Nhŷ Cymunedol, Heol Eton, Casnewydd, lle cynhaliwyd Gwiriadau Iechyd gan Feddygon Mwslimaidd Cymru ac amrywiaeth o wasanaethau yn darparu gwybodaeth i’r 110 o bobl a fynychodd.

  • Mynychu Ffair y Glas ESOL (ar gyfer dysgwyr Saesneg fel ail iaith) Coleg Gwent ym mis Hydref 2022.

  • Rhannu asedau Helpu Ni Helpu Chi mewn ieithoedd gwahanol gydag aelodau'r fforwm.

  • Parhau i ddefnyddio 'WhatsApp' i ymgysylltu â chymunedau amrywiol.

Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol

Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gweithio ag Ysgol Gynradd Maendy yng Nghasnewydd i ddarparu gwybodaeth y Bwrdd Iechyd i’r cyfansoddiad uchel o deuluoedd o gefndiroedd amrywiol y mae eu plant yn mynychu'r ysgol hynny.