Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion a phryderon am GIG Cymru: newidiadau arfaethedig i'r broses "Gweithio i Wella"

Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad i gael eich barn am ein cynigion i ddiwygio sut mae pryderon a chwynion am ofal y GIG yn cael eu codi, eu harchwilio ac ymateb iddynt.

Mae'r broses Gweithio i Wella’n bwriadu:

  • gosod cleifion yng nghalon y broses
  • gwella’r ffocws ar gyfathrebu tosturiol sy'n canolbwyntio ar gleifion
  • gwella’r broses Gweithio i Wella i fod yn fwy cynhwysol
  • cynnwys proses uwchgyfeirio am bryderon brys am gam-drin neu niwed bwriadol
  • darparu atebion ar ôl i rywun farw
  • ailwampio’r trefniadau i ddarparu cyngor cyfreithiol am ddim ac adroddiadau arbenigwyr meddygol.

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar: https://www.llyw.cymru/newidiadau-arfaethedig-ir-broses-gweithio-i-wella

 

Sut i ymateb

A fyddech cystal â chwblhau'r holiadur ar ddiwedd y ddogfen. Gellir cyflwyno ymatebion drwy e-bost neu drwy'r post i'r cyfeiriadau isod erbyn 6 Mai 2024.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

 

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

E-bost: ansawddanyrsio@llyw.cymru

Post:

Is-adran Ansawdd a Nyrsio

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ