Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Clinig Colonosgopi yn y Bwrdd Iechyd

Fel rhan o ad-drefnu Gwasanaethau Gynaecoleg mewn perthynas ag agor Ysbyty Athrofaol y Faenor (rhan o raglen 'Dyfodol Clinigol' y Bwrdd Iechyd), cynigiwyd y byddai clinigau colonosgopi ar draws y Bwrdd Iechyd yn cael eu cynnal mewn tri safle ysbyty cyffredinol lleol, sef yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni, Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach ac Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglynebwy. Mae gan Ysbyty Nevill Hall Uned Gofal Triniaeth Ddydd arbenigol i Ferched sydd newydd ei datblygu lle byddai'r clinigau Colonosgopi yn cael eu cynnal.  Wrth gwrs, gall merched ddewis unrhyw un o'r safleoedd hyn ar gyfer eu gofal.

Cafodd y trefniadau hyn eu gweithredu yn gynt na’r disgwyl yn 2020 o ganlyniad i anawsterau staffio sylweddol a achoswyd gan bandemig COVID. Roeddem yn cydnabod yr angen i sicrhau nad oedd y newidiadau'n achosi unrhyw anawsterau o ran mynediad at glinigau a chynhaliwyd arolwg o'n cleifion blaenorol yng nghlinig Casnewydd ar y pryd.  O'r rhain, nododd 97% o gleifion eu bod yn hapus i fynd i Ysbyty Ystrad Fawr i gael triniaeth, a dyma'r trefniant gwasanaeth byth ers hynny.

Nid oes unrhyw broblemau sylweddol wedi dod i’n sylw ers y pandemig, ac rydym bellach yn cadarnhau’r trefniadau diwygiedig yn ffurfiol (gyda chlinigau colonosgopi yn Ystrad Mynach, Y Fenni a Glynebwy), yn unol â'n cynlluniau gwreiddiol.

Rydym yn parhau i fonitro ein gwasanaethau i sicrhau bod y trefniadau hyn yn hygyrch i bawb. Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynghylch y trefniadau ar gyfer clinigau colonosgopi, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r dulliau canlynol:

 

  • Trwy ein e-bostio ar ABB.Colposcopy@wales.nhs.uk
  • Trwy ein ffonio ar 01873 733239
  • Trwy siarad ag un o’n staff pan fyddwch yn mynychu’r clinig