Bydd Rhaglen Brechlyn Atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref yn dechrau ar 1af Hydref 2025
Prif nod y rhaglen frechu COVID-19 genedlaethol o hyd yw atal salwch difrifol (anfon pobl i’r ysbyty a marwolaethau) sy'n deillio o COVID-19. Gan mai ychydig o amddiffyniad mae brechlynnau COVID-19 presennol yn ei roi yn erbyn mân afiechyd ac afiechyd heb symptomau, mae ffocws y rhaglen ar gynnig brechlyn i'r rheiny sydd fwyaf tebygol o elwa'n uniongyrchol o gael brechlyn, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sy'n cynyddu eu risg o orfod mynd i'r ysbyty yn dilyn haint.
Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau COVID-19 ar gael ar wefan Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae gwybodaeth am frechlynnau mewn fformatau hygyrch hefyd ar gael ar wefan Imiwneiddio a Brechlynnau - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ar gyfer Gwanwyn 2025, mae’r JCVI yn cynghori y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i:
• pobl 75 oed a hŷn;
• preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn; a
• unrhyw un chwe mis oed ac hŷn sydd â system imiwnedd wan
Clinigau Brechu Cymunedol
Gellir dod o hyd i restr o Glinigau Brechu Cymunedol yma: Clinigau Brechu Dros Dro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Din ond trwy apwyntiad y bydd modd gweld cleifion mewn clinigau
Os nad yw amser eich apwyntiad neu leoliad eich apwyntiad yn addas, cysylltwch â’n canolfan trefnu brechiadau a bydd aelod o’n tîm yn hapus i newid eich apwyntiad i chi.
Os hoffech gysylltu â’n tîm trefnu brechiadau gallwch wneud hynny drwy ffonio 0300 303 1373 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy anfon e-bost at: abb.vsbc@wales.nhs.uk
Os hoffech ganslo a/neu aildrefnu eich apwyntiad gallwch wneud hyn drwy lenwi ein ffurflen ar-lein: Ffurflen y ganolfan trefnu apwyntiadau
Dim ond os yw'r claf wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny y bydd ein tîm trefnu apwyntiadau ar gael i siarad â chi ar ran claf. Os nad ydych wedi cael y caniatâd hwn mewn ymgyrchoedd blaenorol, yna sicrhewch eich bod gyda'r claf pan fyddwch yn ffonio.