Mae’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn grŵp o arbenigwyr yn y DU sy’n cynghori’r Llywodraeth ar frechlynnau ac imiwneiddio. Ym mis Medi 2023, argymhellodd y JCVI ddatblygu rhaglen imiwneiddio RSV ar gyfer babanod ac oedolion hŷn.
Mae’r rhaglen RSV yn rhaglen newydd a fydd yn amddiffyn miloedd o fabanod a phobl hŷn rhag salwch difrifol bob gaeaf, gan gadw mwy o bobl allan o’r ysbyty a rhag bod angen gweld meddyg teulu.
Gallai’r brechiad arbed 1,000 o blant ifanc bob blwyddyn yng Nghymru rhag mynd i’r ysbyty a gallai achub bywydau dros 100 o bobl hŷn bob blwyddyn.
Bellach mae brechlynnau diogel ac effeithiol ar gael ac argymhellwyd y dylid cynllunio rhaglen imiwneiddio RSV ar draws holl wledydd y DU.
Firws cyffredin y gaeaf yw firws syncytial anadlol (RSV), a bydd bron i bob plentyn wedi'i gael erbyn eu bod yn ddwy oed. Mae'n gyffredin i blant hŷn ac oedolion ddal y feirws eto.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn. Weithiau, mae angen i bobl sy'n mynd yn sâl o haint RSV fynd i'r ysbyty. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Gall achosi marwolaeth hyd yn oed.
Mae salwch oherwydd RSV yn cael effaith fawr ar y GIG yn ystod misoedd y gaeaf. Yn y DU, mae tua 33,500 o blant dan bump oed yn mynd i'r ysbyty oherwydd y firws. Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Gellir dod o hyd i restr o Glinigau Brechu Cymunedol yma: Clinigau Brechu Dros Dro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Rydyn ni’n bwriadu dechrau darparu’r brechlyn ym mis Medi, i gael rhagor o wybodaeth, ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth am y brechlyn firws syncytiol anadlol (RSV) - Iechyd Cyhoeddus Cymru (ngs.cymru)