Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin Brechu Covid-19 (FAQs)

Daeth Rhaglen Brechu Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 i ben ar 31 Mawrth 2023.

Ydw i'n gymwys i gael y brechiad Atgyfnerthu'r Gwanwyn 2023?

Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor arbenigol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, a
  • unigolion 5 oed a throsodd sydd ag imiwnedd gwan

Pryd fydda i'n cael fy ngalw i gael fy mrechiad Atgyfnerthu'r Gwanwyn?

Byddwn yn dechrau brechu ar Ebrill 1af gan ddechrau gyda'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cartrefi gofal ardraws Gwent. Yna byddwn yn cysylltu â gweddill y rhai sy'n gymwys tua chanol mis Ebrill. Diolch i chi am eich amynedd ar yr adeg hon.


Ni allaf wneud fy apwyntiad, beth ddylwn i ei wneud?

Gwyddom ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad at eu hapwyntiad brechlyn ar amser ac mewn lle sy'n addas i'w hamgylchiadau a'u hanghenion personol. Rydym yn parhau i ofyn i bobl flaenoriaethu apwyntiadau lle bynnag y bo modd, ond rydym yn deall nad yw hyn bob amser yn bosibl. Os na allwch wneud eich apwyntiad, defnyddiwch y manylion cyswllt ar frig eich gwahoddiad ysgrifenedig i drefnu dyddiad arall.


Rwy'n sâl ar hyn o bryd, neu ar wrthfiotigau - a allaf fynychu fy apwyntiad o hyd?

Gallwch, dylech allu cael eich brechiad o hyd os ydych yn sâl. Fodd bynnag, os ydych yn profi tymheredd uchel neu'n sâl iawn, holwch eich meddyg teulu neu gyda brechwr ar y safle cyn cael eich brechiad.

Os ydych chi wedi profi’n bositif yn ddiweddar, neu’n meddwl eich bod wedi dal Covid-19 a’ch bod dros 18 oed, bydd angen i chi aros 28 diwrnod cyn cael eich brechiad. Cysylltwch â'r rhif ar eich gwahoddiad a gofynnwch i apwyntiad arall gael ei anfon atoch.

Bydd angen i blant a phobl ifanc o dan 18 oed sydd wedi’u heintio â Covid-19 aros 12 wythnos cyn cael unrhyw frechiadau Covid-19.

Os yw eich plentyn mewn grŵp sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol o Covid-19, bydd angen iddo aros 4 wythnos ar ôl ei brawf positif.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Nid wyf wedi cael brechiad dos cyntaf, a allaf gerdded i mewn i ganolfan frechu?

Ewch i'n tudalen Cael eich Brechu.


Nid wyf wedi cael fy ail frechiad dos eto - a allaf gerdded i mewn i ganolfan frechu?

Ewch i'n tudalen Cael eich Brechu.


Pa frechlyn fyddaf yn ei gael ar gyfer fy ddos atgyfnerthu?

Mae cynnig dos atgyfnerthu'r Hydref a'r 'cynnig i bawb' bellach wedi dod i ben.


A oes gennych unrhyw glinigau galw heibio y gallaf eu mynychu?

Ewch i'n tudalen Cael eich Brechu.


Rwy'n feichiog ac mae angen fy mrechiad cyntaf, ail neu frechiad atgyfnerthu arnaf. Beth ddylwn i ei wneud?

Ewch i'n tudalen Cael eich Brechu.

Os ydych chi dros 20 wythnos yn feichiog, cerddwch i flaen y ciw, gwnewch eich hun yn hysbys i'r staff a cewch eich blaenoriaethu.


Sut mae cael fy mhàs COVID?

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn Cael eich Pas COVID GIG | LLYWODRAETH CYMRU am wybodaeth ar gael eich Pàs COVID.


Mae fy nghofnod statws brechu yn anghywir ar fy Ngherdyn COVID - beth ddylwn i ei wneud?

Os nad yw eich Pàs COVID yn arddangos tystiolaeth o frechiad a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cysylltwch â’n canolfan archebu ar 0300 303 1373, a fydd yn gallu edrych ar eich cofnod a chadarnhau pa gofnod sydd gennym.

Os cawsoch eich brechiadau mewn ardal Bwrdd Iechyd arall ac nad yw’r brechiad hwn yn dangos, bydd angen i chi gysylltu â’r Bwrdd Iechyd hwnnw i gael y brechiad wedi’i ychwanegu at eich cofnod.

I gael wybodaeth am docynnau COVID ar gyfer y rhai sy'n agored i niwed yn glinigol, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn https://www.llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y-gig.


Mae fy manylion personol yn anghywir ar fy Ngherdyn COVID - beth ddylwn i ei wneud?

Yn anffodus, ni all y Bwrdd Iechyd newid eich manylion personol ar eich Pàs COVID. Cysylltwch â'ch Practis Meddyg Teulu i sicrhau bod eich gwybodaeth yn gyfredol, gan fod eu system yn cysylltu â'ch cofnod GIG.