Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Ddiogel yn yr Haul yr Haf Hwn

Mae niferoedd canser y croen, gan gynnwys melanoma, y ffurf fwyaf difrifol, yn cynyddu - gyda ffigurau newydd yn datgelu cynnydd syfrdanol o 79% mewn triniaeth canser y croen ers 2019. Mae aros yn ddiogel yn yr haul yn bwysicach nag erioed, gan y gall llosgi yn yr haul dim ond unwaith bob dwy flynedd dreblu eich risg o ddatblygu canser y croen.

Fodd bynnag, gellir osgoi'r mwyafrif o achosion. Mae ymchwil yn dangos bod modd atal 86% o ganserau'r croen trwy gymryd camau diogelwch haul syml ond hanfodol.

Mae hefyd yn bwysig cofio nad dim ond dramor y mae llosg haul yn digwydd — gall niwed i'r croen ddigwydd yma yng Nghymru, hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog.