Atal haint a'ch cadw'n ddiogel yn ein holl ysbytai
Mae gan bawb gyfrifoldeb i atal heintiau. I lawer o bobl sy’n cael eu trin yn yr ysbyty ac yn derbyn gofal o fewn ein cymunedau, gall heintiau fod yn ddifrifol, ac mewn rhai achosion, gallant fygwth bywyd.
Mae tua 300,000 o bobl y flwyddyn yn cael heintiau o ganlyniad i ofal y GIG. Y mathau mwyaf cyffredin yw heintiau anadlol (heintiau sy'n effeithio ar yr anadlu a'r ysgyfaint), heintiau'r llwybr wrinol a heintiau ger safle llawfeddygol.
Gallant hefyd wneud cyflyrau meddygol presennol yn waeth. Mae cyswllt rheolaidd â staff, preswylwyr eraill, teulu a ffrindiau a'r gofod byw a rennir oll yn golygu ei bod yn hawdd trosglwyddo haint. Mae’n hanfodol felly ein bod i gyd yn cymryd y camau a all helpu i atal heintiau rhag lledaenu.
Oeddech chi'n gwybod?
Gofal Dwys a rhannau eraill o’n safleoedd sy’n agored iawn i niwed yw lle mae’r rhan fwyaf o frigiadau a heintiau’n digwydd oherwydd difrifoldeb salwch y cleifion sydd ynddynt. Fel arfer bydd cleifion yn aros yn yr amgylcheddau hyn am gyfnod hirach o amser hefyd, felly mae'n rhaid i ni gymryd mwy byth o ofal o ran mesurau ataliol megis y rhai sydd wedi’u crybwyll uchod.