Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ac Adnoddau Cymunedol

Cysylltwyr Cymunedol

Gall Cysylltwyr Cymunedol gefnogi a galluogi pobl i ddod o hyd i weithgareddau, grwpiau a rhwydweithiau addas sy'n cysylltu pobl o'r un anian a allai fod â diddordebau tebyg. Mae ganddyn nhw i gyd rôl debyg sef mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddinasyddion sy'n byw yn ardal Aneurin Bevan. Maen nhw'n rhoi cyngor wyneb yn wyneb yn ogystal â thros y ffôn, tros e-bost neu trwy’r post. Os hoffech chi gael gwybodaeth, cyngor, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â grŵp yn eich ardal, cysylltwch â nhw.

Mae Cysylltwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud drwy gynnwys pobl yn y penderfyniadau a wneir a sicrhau bod y gefnogaeth a gynigir yn unol â'r 'hyn sy'n bwysig' i chi er mwyn eich grymuso i ddod yn bartneriaid cyfartal wrth wella eich canlyniadau iechyd a lles.

Gadewch i ni eich cysylltu â'ch cysylltwyr cymunedol lleol er mwyn i chi i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal! Cliciwch ar eich ardal leol i ddarganfod sut allwch chi gysylltu â'ch timau cymunedol a all ddarparu cyngor ar iechyd a lles.