Grwpiau cymunedol | Cyngor Dinas Casnewydd
Mae Eich Casnewydd yn blatfform ar-lein sy'n eich cysylltu â'ch cymuned, gan roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gadw'n iach, aros yn actif a chysylltu ag eraill. Mae gwefan Eich Casnewydd yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gefnogi Eich Iechyd, Eich Cartref a'ch Cymuned, gyda mynediad at weithgareddau a gwasanaethau i wella'ch iechyd a'ch lles.
Gwefan: Gwasanaethau Llesiant | Sefydliadau | Gweithgareddau yng Nghasnewydd - Eich Casnewydd Chi
Os oes gennych chi Facebook, mae'r tîm yn cysylltu â phobl leol ac yn darganfod beth sy'n digwydd, ymunwch â'r sgwrs.
Facebook: Eich Casnewydd, Eich Llesiant | Casnewydd | Facebook
Gwefan ddefnyddiol arall yw DEWIS Cymru , gwefan i'ch cynorthwyo i ddod o hyd i weithgareddau, gwasanaethau a sefydliadau lleol a chenedlaethol.
Mae llyfrgelloedd yn cefnogi ein cymunedau lleol drwy gynnig gofod dinesig, adnoddau a chyfleusterau hygyrch am ddim i gefnogi'r henoed, y rhai sydd wedi'u hynysu, a'r rhai sy'n agored i niwed.
Gwefan: Llyfrgelloedd | Cyngor Dinas Casnewydd