Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Bydd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn cael ei gyhoeddi ar 20 Mai 2024 yn dilyn ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol.

Sefydlwyd yr Ymchwiliad yn 2017 i archwilio'r amgylchiadau lle bu dynion, menywod a phlant a gafodd eu trin gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig yn derbyn cynhyrchion gwaed heintiedig rhwng 1970 a 1996.

Gallwch ddarganfod mwy am yr Ymchwiliad ar wefan yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig - Gwasanaeth Gwaed Cymru (welsh-blood.org.uk).   

Roedd cyn-Awdurdod Iechyd Gwent yn rhan o'r gwaith o ddarparu gofal i'r rhai oedd angen gwaed neu gynhyrchion gwaed a gwyddom fod rhai o'r cleifion hynny wedi'u heintio wedi hynny ac mae aelodau'r teulu ac anwyliaid wedi cael eu heffeithio gan y canlyniadau.

Rydym yn cydnabod ac yn ymddiheuro'n ddiamod am y brifo, y boen a'r dioddefaint a achoswyd a hoffem achub ar y cyfle hwn i ymestyn ein hymddiheuriad diffuant i bawb yr effeithir arnynt a'n cydymdeimlad dwys â'r rhai sy'n dioddef colled anwyliaid.

Hoffem gydnabod y nifer fawr o bobl a grwpiau eiriolaeth ag ymgyrchodd yn ddiflino dros gynnal ymchwiliad cenedlaethol. Mae'r dewrder, y gwytnwch a'r dyfalbarhad a ddangoswyd gan bawb a roddodd dystiolaeth yn ddewr yn wirioneddol ryfeddol.

Rydym wedi cefnogi'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig mewn ffordd agored a thryloyw drwy rhannu'r holl wybodaeth a dogfennaeth berthnasol.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd â chwestiynau am ofal a byddwn yn dilyn y dull Dyletswydd Gonestrwydd ac yn rhannu unrhyw gofnodion meddygol sydd ar gael ar gais. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored, yn dryloyw ac yn onest ag unrhyw un sy'n cysylltu â ni. I ddarllen mwy am y ddyletswydd gonestrwydd, cliciwch yma.

Os ydych chi'n poeni y gallech chi neu rywun annwyl gael eich heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig neu os ydych chi'n poeni am eich risg, gallwch gael prawf cartref cyfrinachol am ddim drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

Cleifion Anhwylderau Gwaedu Etifeddol

Mae tîm Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu Cymru yng Nghanolfan Haemoffilia yng Nghaerdydd wedi sefydlu llinell ffôn a chyfeiriad e-bost pwrpasol i gefnogi cleifion a theuluoedd sydd wedi'u heintio neu eu heffeithio gan gynhyrchion gwaed halogedig yng Nghymru. Bydd y rhain yn gweithredu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9yb a 4yp.

I gysylltu â thîm Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu Cymru, gallwch:

Anfon e-bost: BDNW.InfectedBloodInquiry.Cav@wales.nhs.uk neu ffonio: 0800 952 0055

Fel arall, gallwch gysylltu â Haemoffilia Cymru drwy info@haemophiliawales.org.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon mewn perthynas â chael prawf cartref, gallwch gysylltu â llinell ffôn a chyfeiriad e-bost penodedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Bydd y rhain yn gweithredu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 4:45yp (ac eithrio gwyliau banc). Gellir cysylltu â nhw drwy:

E-bost: Abb.InfectedBlood@wales.nhs.uk

Ffôn: 0300 30 31 222 Opsiwn 3.

Os ydych yn byw y tu allan i ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cysylltwch â'ch Bwrdd Iechyd. Mae rhestr o holl fyrddau iechyd Cymru i'w gweld yma.

 

*Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, byddwn yn cefnogi'r argymhellion y dylid profi unrhyw un a dderbyniodd drallwysiad gwaed cyn 1996.

 

Cwestiynau Cyffredin

 

Dolenni defnyddiol