Mae gwaed a chydrannau gwaed yn cael eu rhoi gan wirfoddolwyr iach, di-dâl ac mae’r risg y bydd uned heintiedig yn mynd i mewn i gyflenwad gwaed y DU yn hynod o isel.
Mae rhoddwyr yn llenwi holiadur iechyd bob tro y byddant yn rhoi ac mae rhoddion gwaed yn cael eu profi bob tro am ystod o heintiau posibl. Mae hyn yn golygu bod y siawns o drosglwyddo unrhyw haint yn isel iawn.
Ers 1985 mae’r holl waed a roddir yn y DU wedi’i brofi am HIV fel mater o drefn ac ers mis Medi 1991 mae’r holl waed a roddir yn y DU wedi’i brofi’n rheolaidd am Hepatitis C.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch a sgrinio gwaed ar wefan Grŵp Goruchwylio Cenedlaethol Iechyd Gwaed yma neu ar wefan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yma.
Cyn 1992 nid oedd organau a roddwyd yn cael eu sgrinio'n rheolaidd ar gyfer Hepatitis C ac mae risg fach iawn y gallai organ a roddwyd gan rywun â Hepatitis C ledaenu'r haint.