Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf wedi cael trallwysiad gwaed yn ddiweddar. Ydw i mewn perygl?

Mae'r holl roddion gwaed yn y DU yn cael eu profi'n rheolaidd am ystod o heintiau posibl, gan gynnwys Hepatitis B, C ac E, a HIV. Mae hyn yn golygu bod y tebygolrwydd o ddal haint o drallwysiad gwaed yn hynod o isel.

Ers 1985 mae’r holl waed a roddir yn y DU wedi’i brofi am HIV fel mater o drefn ac ers mis Medi 1991 mae’r holl waed a roddir yn y DU wedi’i brofi’n rheolaidd am Hepatitis C.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch a sgrinio gwaed ar wefan Grŵp Goruchwylio Cenedlaethol Iechyd Gwaed yma neu ar wefan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yma.