Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad Canolfan Radiotherapi Lloeren

Gwasanaethau Radiotherapi ar gyfer De Ddwyrain Cymru ac adeiladu Canolfan Lloeren Radiotherapi Lloeren

Gyda nifer yr unigolion sy'n cael eu diagnosio ac sy’n byw gyda chanser yn cynyddu – amcangyfrifir y bydd 230,000 yn dioddef o ganser erbyn 2030 – mae'n bwysig dros ben ein bod ni’n darparu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n gallu darparu gwell profiadau a chanlyniadau i gleifion.

Fel rhan o'n perthynas waith gydweithredol, hirsefydlog gyda’r byrddau iechyd yn ne ddwyrain Cymru, rydym yn gweithio i geisio datblygu’r model gofal gorau, sy'n sicrhau bod ein cleifion yn parhau i dderbyn y gwasanaethau triniaeth sydd eu hangen arnynt fel rhan o'u taith ganser.  

Mae’r rhwydwaith yn cynnwys y canlynol:

  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae gan radiotherapi rôl bwysig i’w chwarae mewn trin canser, gan y bydd tua hanner yr holl gleifion canser yn cael radiotherapi fel rhan o'u triniaeth. Yn ogystal, mae 4 o bob 10 claf yn cael eu gwella drwy gael radiotherapi (Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)/Internatona Atomic Energy Agency (IAEA)).

Mae model wedi'i rwydweithio yn cael ei ddefnyddio gan ganolfannau canser blaenllaw ar draws y byd, sy'n sicrhau canlyniadau da, a dyna pam rydym yn cynnig newid i’r gwasanaethau radiotherapi yn ein rhanbarth, i sicrhau y byddant yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Rydym eisiau clywed gennych chi, poblogaeth de ddwyrain Cymru, ynghylch y newid arfaethedig i’r gwasanaethau…

Rydym wedi casglu gwybodaeth am natur gwasanaethau radiotherapi, y sefyllfa ar hyn o bryd, yr heriau sy'n ein hwynebu, ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'r manteision i gleifion. Dysgwch fwy am y newidiadau arfaethedig, a rhowch eich adborth.

Gallwch ddarllen dogfen Bwysig y Ganolfan Radiotherapi Lloeren, a chyflwyno eich adborth drwy ein harolwg.

Dogfennau defnyddiol

Rhannwch eich barn ...

Rydym yn gweithio'n agos gyda'n Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydliadau partner eraill i sicrhau bod gymaint o bobl â phosibl yn cael y cyfle i ddysgu am y newid hwn i’n gwasanaethau radiotherapi, ac i rannu eu barn.

Mae ein digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd sydd yn cael eu rhedeg gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cael eu cynllunio fel a ganlyn:

  • Dydd Mercher 26 Mai 2021
  • Dydd Mercher 9 Mehefin 2021
  • Dydd Mercher 23 Mehefin 2021

Os hoffech fynychu unrhyw rai o’r digwyddiadau cyhoeddus, anfonwch e-bost i Velindre.communications@wales.nhs.uk i gofrestru.

Mae’r cyfle ymgysylltu â’r cyhoedd yn rhedeg am wyth wythnos, o ddydd Iau 20 Mai tan ddydd Gwener 9 Gorffennaf 2021. 

 

Cwblhewch Ein Harolwg