Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r achos busnes llawn dros ddatblygu'r Ganolfan Iechyd a Lles newydd yn Nwyrain Casnewydd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn bwriadu adeiladu Canolfan Iechyd a Llesiant integredig newydd yn Nwyrain Casnewydd. Bydd y Ganolfan Iechyd a Llesiant wedi’i lleoli yn Ringland ac yn gartref i ddwy Feddygfa Meddyg Teulu presennol sy'n gweithio'n annibynnol; Practis Meddygol Ringland a cynigir, Meddygfa Parc, ochr yn ochr â Deintyddfa Ringland.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio’n agos â’r gymuned leol a Hwb Cymunedol Dwyrain Casnewydd Cyngor Dinas Casnewydd.
Cliciwch ar y ddolen i weld cynllun o'r safle, cynlluniau llawr ac argraffiadau arlunydd: ABUHB Engagement Boards_Jan 23.pdf
I gael rhagor o wybodaeth, cadwch olwg ar y dudalen hon am ddiweddariadau pan fyddant yn digwydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datblygiad ac yn dymuno cael gwybod am gynnydd y prosiect, e-bostiwch: ABB.NEHWBCFeedback@wales.nhs.uk