Neidio i'r prif gynnwy

Ffordd at Les

Mae llawer ohonom yn profi cyfnodau anodd yn ein bywydau a all ein gadael yn teimlo dan straen, yn bryderus neu'n isel ein hysbryd. Efallai eich bod chi'n ceisio dod o hyd i help oherwydd eich bod chi wedi bod yn teimlo'n isel am ychydig ddyddiau. Neu efallai eich bod chi'n cael amser llawn straen yn y gwaith, sy'n achosi i chi deimlo'n bryderus.
 
Mae'r Ffordd at Lles yn fenter newydd gyffrous i helpu pobl i reoli straen a gwella lles meddyliol. Mae menter Gwent a gychwynnwyd ym mis Ebrill 2015 wedi bod yn boblogaidd iawn gyda channoedd yn mynychu'r cyrsiau 'Rheoli Straen' ac 'Ysgogi'ch bywyd'.
 
Mae'r ddau gwrs yn ategu ei gilydd, a hyd yn hyn, maent wedi denu niferoedd o hyd at 80 o gyfranogwyr ar y tro.
 
Mae'r holl gyrsiau uchod wedi'u cynllunio i fod mor hygyrch â phosibl, ni chymerir unrhyw fanylion personol, nid oes angen atgyfeirio na bwcio ymlaen llaw, ac mae'r fformat an-rhyngweithiol yn sicrhau na chaiff neb ei roi yn y fan a'r lle na gofyn iddo drafod unrhyw broblemau personol. Mae croeso i chi ddod â ffrind neu berthynas, mae croeso i bawb. Dim ond troi i fyny sydd angen gwneud!
 
Mae gan wefan 'Ffordd at Les' lawer o wybodaeth ymarferol, ddefnyddiol am ymdopi â straen, pryder neu iselder ysbryd, neu wella'ch lles meddyliol yn gyffredinol.
 
Ar dudalennau 'Ffordd at Les' gellir dod o hyd i wybodaeth am:
 
 
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n canolfan wybodaeth ar 0330 053 5596 a dewis opsiwn 2.