Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn

Mae ein tîm Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn yn darparu gwasanaethau i oedolion hŷn ardraws Gwent. Mae'r tîm yn cynnig ystod o wasanaethau, o wasanaethau Asesu Cof, cefnogaeth Iechyd Meddwl Cymunedol a chyfleusterau Cleifion Preswyl.

Mae'r tîm hefyd yn darparu'r gwasanaeth 'OAPL'. Mae OAPL yn sefyll am Gyswllt Seiciatryddol Oedolion Hŷn (Older Adult Psychiatric Liaison). Maent yn dîm Iechyd Meddwl amlddisgyblaethol arbenigol sy'n gweithio yn ysbytai BIPAB i gefnogi cleifion â phroblemau / pryderon Iechyd Meddwl, yn ystod eu hasesiad, eu diagnosis a'u triniaeth. Ariennir y rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys cyswllt Iechyd Meddwl yn bennaf ar gyfer pobl hŷn.

Mae'r timau OAPL yn gweithredu o ddau brif safle, Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni. O'r safleoedd hyn, mae'r tîm hefyd yn cwmpasu'r ysbytai adsefydlu cyfagos wrth i anghenion gael eu nodi.

Mae'r gwasanaeth OAPL yn cynnig gwasanaeth tosturiol, person-ganolog ac anfeirniadol i gleifion sy'n dioddef o broblemau Iechyd Meddwl 65 oed a hŷn, sy'n mynychu Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Unedau Asesiad Meddygol neu sy'n gleifion breswyl yn yr ysbyty. Bydd y tîm hefyd yn gweld pobl iau os ydyn nhw'n cyflwyno problemau gwybyddol (nad ydyn nhw'n cael eu hachosi gan ddeliriwm neu feddwdod acíwt).