Neidio i'r prif gynnwy

Brechlynnau rhag y ffliw bellach ar gael i blant ifanc, disgyblion ysgol a menywod beichiog

Mae rhieni a gofalwyr plant ifanc, plant oed ysgol a menywod beichiog yn cael eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn derbyn y cynnig o frechlyn rhag y ffliw am ddim yr hydref hwn.

Gall y ffliw fod yn salwch difrifol a gall ledaenu'n hawdd yn ystod misoedd y gaeaf. Cael eich brechu yw'r ffordd orau o helpu i amddiffyn eich hun a'r rheiny o'ch cwmpas rhag mynd yn ddifrifol wael.

Pwy all gael eu brechlyn rhag y ffliw nawr?

Mae'r brechlyn ffliw bellach ar gael ar gyfer:

  • Plant 2 a 3 oed
  • Plant oedran ysgol
  • Menywod beichiog

Bydd plant 2 a 3 oed, yn ogystal â phlant oedran ysgol fel arfer yn derbyn brechlyn chwistrell trwynol cyflym a di-boen, gan helpu i'w hamddiffyn rhag y ffliw a lleihau’r siawns y bydd y feirws yn cael ei throsglwyddo i aelodau o'r teulu ac eraill yn y gymuned.

Bydd plant oedran ysgol yn cael cynnig eu brechlyn drwy'r rhaglen frechu ysgolion.

Nodyn atgoffa pwysig i fenywod beichiog

Mae menywod beichiog yn cael eu hannog yn gryf i gael eu brechlyn rhag y ffliw, gan y gall y ffliw fod yn fwy difrifol yn ystod beichiogrwydd a gall gynyddu'r risg o gymhlethdodau i'r fam a'r babi.

Wrth fynychu eich apwyntiad ar gyfer brechlyn rhag y ffliw, cofiwch y gallech hefyd fod yn gymwys ar gyfer:

  • Y brechlyn RSV, sy'n helpu i amddiffyn babanod rhag heintiau anadlol difrifol ar ôl genedigaeth.
  • Brechlyn rhag y Pas (pertussis), sy'n helpu i amddiffyn babanod newydd-anedig yn ystod eu wythnosau cyntaf o fywyd cyn iddynt fod yn ddigon hen i dderbyn eu brechlynnau eu hunain.

Bydd y brechlyn ffliw ar gael o 1 Hydref i bobl 65 oed ac hŷn a'r rheiny sy’n sy'n imiwnoataliedig neu’n gymwys oherwydd eu bod mewn grŵp risg clinigol arall.

Darganfod mwy

I gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau rhag y ffliw, cymhwysedd a sut i gael eich brechu, ewch i:

👉Brechiadau Ffliw 2025/26 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan