Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn partneriaeth â The Parish Trust, yn cynnig cymorth profedigaeth am ddim i unrhyw un sydd wedi colli anwylyn.
Mae cyrsiau newydd yn cychwyn rhwng Mawrth a Mehefin, gan ddarparu lle diogel a chefnogol i fynd i’r afael â galar.
Darganfyddwch fwy a chofrestrwch: theparishtrust.org.uk/bereavementabuhb
Os allai hyn fod o fudd i chi neu rywun rydych yn ei adnabod, rydym yn eich annog i gymryd rhan.