Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru - Rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID y gwanwyn i bobl dros 75 oed a'r rheini sydd fwyaf agored i niwed

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn dechrau ar 1 Ebrill i'r rheini sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl dros 75 oed.

Yn dilyn cyngor gan arbenigwyr y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion 5 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd y cynnig cyffredinol o frechiad atgyfnerthu COVID-19 yn dod i ben ar 31 Mawrth. Bydd grwpiau risg uwch a phobl sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu gwneud yn gymwys i gael eu brechu yn dal i allu cael eu brechiad atgyfnerthu, os bydd meddyg neu glinigydd arall yn eu cynghori i’w gael.

Bydd pobl sydd heb dderbyn eu cwrs sylfaenol o frechiadau yn gallu gwneud hynny hyd at 30 Mehefin. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell bod modd gwneud y newidiadau hyn ar sail y lefel uchel o imiwnedd sydd wedi’i meithrin ymhlith y boblogaeth.

Yn ogystal â rhaglen atgyfnerthu'r gwanwyn, bydd rhaglen atgyfnerthu’r hydref yn cael ei chynnal yn hwyrach yn ystod y flwyddyn, yn dilyn cyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Dywedodd Syr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol:

Mae’r coronafeirws yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau, felly rydyn ni’n cynnig brechiad atgyfnerthu arall i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed y gwanwyn hwn. Bydd yr unigolion hynny sy'n gymwys i gael eu brechu yn dechrau derbyn eu gwahoddiadau yn yr wythnosau nesaf.

I unrhyw un sydd ddim wedi derbyn eich cwrs sylfaenol na'ch brechiad atgyfnerthu gwreiddiol eto – dyw hi ddim yn rhy hwyr. Gwnewch apwyntiad i gael eich brechiad atgyfnerthu erbyn diwedd y mis hwn neu eich cwrs sylfaenol erbyn 30 Mehefin.

Brechu yw'r ffordd orau o hyd o’ch amddiffyn eich hun a'r bobl o'ch cwmpas i atal lledaeniad COVID-19 a byddwn yn annog pawb i gael eu brechu.