Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Critigol Wedi'i Ddiddymu

17:00, Dydd Iau 2 Gorffennaf 2026

Heddiw, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi diddymu'r Digwyddiad Critigol a ddatganwyd mewn ymateb i'r pwysau parhaus a grëwyd gan y cyfnod diweddar o wres eithafol.

Mae'r penderfyniad yn dilyn tymheredd oerach a lleithder llai, ochr yn ochr â gwelliant yn llif y system, gyda phwysau ar draws ein gwasanaethau - er eu bod yn dal i fod yn sylweddol - bellach yn disgyn o dan y trothwy ar gyfer Digwyddiad Critigol.

Fodd bynnag, mae'r galw yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn parhau i fod yn uchel ac rydym yn parhau i annog pobl leol i ddefnyddio gwasanaethau'r GIG yn ddoeth. Os nad ydych yn siŵr ble i fynd am ofal, cysylltwch â GIG 111 neu ewch i Ganllaw Iechyd Gwent ar ein gwefan.

Trwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae staff ar draws y Bwrdd Iechyd wedi parhau i ddarparu gofal mewn amgylchiadau eithriadol o anodd, yn aml yn gweithio mewn tymheredd uchel iawn wrth reoli galw parhaus am wasanaethau.


Dywedodd y Prif Weithredwr, Nicola Prygodzicz:

"Hoffwn ddiolch i'n holl staff am eu hymdrechion anhygoel trwy gydol y cyfnod hwn. Mae cydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd wedi mynd yr ail filltir i ddarparu'r gofal gorau i'r claf, gan ddangos proffesiynoldeb, gwytnwch, tosturi a gwaith tîm rhagorol.

"Hoffwn hefyd ddiolch i'n cleifion a phobl Gwent am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth wrth i ni reoli'r pwysau sylweddol hwn."

 


 
14:00, Dydd Iau 25 Mehefin 2026

Diweddariad gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Leanne Watkins, ar y Digwyddiad Critigol parhaus.

 

12:00, Dydd Mercher 24 Mehefin 2026
Digwyddiad critigol yn parhau i fod yn ei le – cymerwch ofal yn y gwres

Mae ein Digwyddiad Critigol yn parhau heddiw wrth i ni barhau i reoli pwysau sylweddol ar draws ein gwasanaethau.

Gyda thywydd poeth iawn yn parhau, rydym yn gofyn i bawb gymryd gofal ychwanegol a gofalu am eu hunain ac eraill. Yfwch ddigon o hylifau, ceisiwch gysgod lle bo'n bosibl ac osgowch orboethi, yn enwedig os ydych chi'n hŷn, yn ifanc iawn, neu os oes gennych gyflyrau iechyd sylfaenol.

Rydym yn parhau i ofyn am eich cefnogaeth trwy ddim ond fynychu ein Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor os yw'n peryglu bywyd neu os oes gennych anaf difrifol iawn. Mae ein  hysbytai eraill, a’n cydweithwyr Meddyg Teulu, Fferylliaeth, Deintyddol ac optometreg hefyd o dan bwysau difrifol oherwydd effeithiau'r tymheredd eithafol. Os nad ydych yn siŵr ble i fynd am ofal, ffoniwch 111 am help a chyngor.


Os oes gennych apwyntiad heddiw, yfory neu Ddydd Gwener, mynychwch fel y cynlluniwyd oni bai ein bod yn cysylltu â chi. Os oes angen aildrefnu eich apwyntiad, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. Os ydych chi'n teimlo na allwch fynychu'n ddiogel oherwydd y gwres, ni fyddwch dan anfantais a byddwn yn trefnu apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl - ond os gallwch, rhowch wybod i ni drwy ffonio'r rhif ar eich llythyr drefnu.


Diolch am eich cefnogaeth barhaus.
 


18:00, Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026

Rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad heddiw i gyhoeddi Digwyddiad Critigol oherwydd effeithiau'r gwres eithafol rydym yn ei brofi'r wythnos hon.

Rydym wedi gwneud y penderfyniad hwn gan fod ein gwasanaethau ar hyn o bryd yn profi galw eithriadol ar draws ein hysbytai oherwydd cyfuniad o gynnydd yn nifer o gleifion argyfyngus sâl iawn yn mynychu â symptomau sy'n gysylltiedig â gwres, methu â gofalu'n ddiogel am gleifion mewn rhai rhannau o'n hysbytai nad ydynt wedi'u haerdymheru, a'r nifer uchel o gleifion sy'n aros i gael eu rhyddhau, ynghyd ag anawsterau staffio oherwydd cau ysgolion dros y dyddiau nesaf.

Fel y gwelwyd ar draws ardaloedd eraill o Gymru, gofynnwn am eich cefnogaeth trwy ddim ond fynychu ein Hadran Achosion Brys os yw'n peryglu bywyd, neu os oes gennych anaf difrifol iawn.

Gall unrhyw un fynd yn sâl mewn tywydd poeth, ond mae pobl hŷn, babanod, plant ifanc, y rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain neu mewn cartref gofal yn fwy agored i niwed yn y gwres. Byddem yn annog ein cymunedau i aros mor ddiogel â phosibl a gofalu am ei gilydd yn ystod y cyfnod hwn o wres eithafol trwy yfed digon o ddŵr, chwilio am gysgod ac osgoi gorboethi lle bynnag y bo modd.

Os oes angen cymorth meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaethau a ddewiswch. Bydd dewis y lle cywir i dderbyn cyngor a gofal yn ein helpu i sicrhau nad yw ein hysbytai wedi'u gorlethu ac yn ein galluogi i ddarparu triniaeth amserol i'r cleifion sydd fwyaf mewn angen.

Ystyriwch ymweld â'ch fferyllfa leol, eich meddyg teulu, ewch i https://111.wales.nhs.uk/selfassessments neu ffoniwch GIG 111 am gyngor. Gallwch hefyd ffonio 111 os oes angen apwyntiadau brys arnoch pan fydd eich meddygfa eich hun ar gau.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion gwasanaethau amgen drwy ymweld â'n Canllaw Iechyd Gwent ar-lein: Canllaw Iechyd Gwent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Diolch am eich cefnogaeth barhaus yn yr amseroedd heriol hyn i'n GIG. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi dros y dyddiau nesaf.