“Roedd fy merch Skyla yn ferch fach hapus, gyda chalon garedig a llawer o ffrindiau – hi oedd ein byd. Dim ond pedair oed oedd Skyla pan fu farw o sepsis.
Roedd yn gyflym
Roedd yn drychineb
Roedd yn atalaidwy
Roedd Skyla’n dangos arwyddion sepsis – tymheredd uchel iawn, blinder, poen yn ei choesau a’i habdomen a chroen brith.
Ond methwyd y rhain.
Ni ddylai unrhyw deulu orfod wynebu poen fel hyn. Dyna pam fy mod yn rhannu stori Skyla – er mwyn sicrhau nad oes angen i unrhyw riant arall orfod gofyn ‘beth os?’
Heddiw ar Ddiwrnod Sepsis y Byd, rydym yn adlewyrchu.
Rydym yn cofio’r rheiny yr ydym wedi’u colli,
Y teuluoedd sydd wedi’u gadael ar ôl
A’r goroeswyr sy’n byw gydag effeithiau hirdymor sepsis.
Ond rydym hefyd yn edrych tua’r dyfodol.
Oherwydd trwy rannu’r neges, trwy wybod beth yw’r arwyddion, gallwn wneud gwahaniaeth.
Da chi, dysgwch beth yw’r arwyddion
Slurred speech or confusion - Lleferydd aneglur neu ddryswch
Extreme shivering or muscle pain - Cryndod eithafol neu boen yn y cyhyrau
Passing no urine (in a day) - Pasio dim wrin (mewn diwrnod)
Severe breathlessness - Diffyg anadl difrifol
It feels like you’re going to die - Teimlo eich bod chi am farw
Skin mottled or discoloured - Croen brith neu liw anarferol
Codwch lais a credwch eich greddf.
Dim ots os ydych chi’n riant, yn anwylyn, yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol- gall y camau y byddwch yn eu cymryd newid popeth.
Mae sepsis yn symud yn gyflym. Gall adnabod y symptomau’n gyflym achub bywyd,
Roedd bywyd Skyla’n bwysig.
Trwy rannu ei stori, gobeithiwn ein bod yn diogelu eraill."
- Amy Whiting.