Gall trigolion Gwent nawr gael cymorth ar gyfer dolur gwddf a heintiau'r llwybr wrinol (UTIs) mewn unrhyw fferyllfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
O Ddydd Mercher 1 Hydref 2025 ymlaen, bydd dolur gwddf a heintiau'r llwybr wrinol yn ymuno â'r rhestr o fân anhwylderau y gellir eu trin am ddim mewn fferyllfeydd lleol fel rhan o'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin – menter sy'n darparu cyngor a thriniaeth am ddim gan y GIG ar gyfer ystod o broblemau iechyd cyffredin heb angen apwyntiad gyda meddyg teulu.
O lau pen i darwden y traed, a nawr dolur gwddf a heintiau'r llwybr wrinol (UTIs), mae'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn caniatáu i drigolion lleol gael eu gweld gan fferyllwyr hyfforddedig, a all asesu symptomau, rhoi cyngor cyfrinachol, a rhoi triniaeth os oes angen. Gan fod apwyntiadau'n cael eu hargymell, cynghorir cleifion i ffonio ymlaen llaw cyn ymweld â'u fferyllfa ddewisol a byddant fel arfer yn cael eu gweld o fewn 24 awr.
Er roedd gwasanaethau Profi a Thrin Dolur Gwddf a Phrofi a Thrin y Llwybr Wrinol ar gael yn flaenorol mewn fferyllfeydd dewisol, mae'r ehangiad hwn yn sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn bellach ar gael o unrhyw fferyllfa sy'n cynnig y Cynllun Anhwylderau Cyffredin.
Dywedodd Richard Evans, Arweinydd Fferyllfa Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Rydym yn falch iawn bod triniaeth ar gyfer dolur gwddf a heintiau’r llwybr wrinol bellach ar gael i gleifion fel rhan o’r Cynllun Anhwylderau Cyffredin. Mae ein Fferyllwyr lleol yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig iawn a all gynnig cyngor arbenigol, ac mae’r ehangiad hwn yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl gael mynediad at ofal diogel ac arbenigol heb fod angen apwyntiad gyda meddyg teulu.
“Gan bod pob fferyllfa yn cymryd rhan yn y fenter hon, mae hwn yn golygu os nad yw'r gwasanaeth ar gael mewn fferyllfa a ddewiswyd, y gellir cyfeirio cleifion at fferyllfa gyfagos i sicrhau eu bod yn cael eu gweld o fewn 48 awr.”
Efallai y gofynnir i gleifion gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin am ddim. Ar gyfer dolur gwddf a heintiau llwybr wrinol, gellir cynnal prawf syml i wirio a fydd gwrthfiotigau'n gweithio.
Mae'r rhestr lawn o anhwylderau cyffredin sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun ar gael yma: Fferyllfeydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan