"Er na all bob un ohonom fod adref ar gyfer y Nadolig, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall ein cleifion fynd adref" yw neges ingol fideo Nadoligaidd calonogol sy’n dathlu cyfraniad anhygoel staff y GIG.
Mae’r fideo newydd, a ryddhawyd heddiw (Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn dangos sut mae staff y GIG yn mynd gam ymhellach i ofalu am eu cleifion a’u helpu i ddychwelyd adref i dreulio'r Nadolig â'u hanwyliaid.
I’r mwyafrif o Staff y GIG, mae gwaith yn parhau dros gyfnod y Nadolig fel arfer, a diolch i’r unigolion ymroddedig hyn y bydd llawer o deuluoedd ledled Gwent yn gallu dathlu gyda’u hanwyliaid. Gyda nifer o'r rolau hyn y tu ôl i'r llenni, mae pob aelod o staff - waeth beth fo'u rôl - yn cyfrannu at brofiad cyffredinol cleifion ac yn chwarae rhan yn eu gofal.
Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Mae’r fideo hwn yn deyrnged i’n staff anhygoel sy’n gweithio mor galed drwy gydol y flwyddyn ar draws y Bwrdd Iechyd cyfan gyda phawb yn cyfrannu at brofiad ein cleifion a’n cymunedau mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae'r ffilm yn giplun o sut mae staff yn gweithio gyda'i gilydd i fynd gam ymhellach i gefnogi cleifion i ddod yn ddigon iach i ddychwelyd adref at eu hanwyliaid, yn enwedig adeg y Nadolig, ac maen nhw'n gweithio'n galed iawn bob blwyddyn i wneud i hynny ddigwydd. Maen nhw’n aberthu cymaint o’u cyfnod Nadolig eu hunain i wneud yn siŵr bod eu cleifion yn cael gofal, ac felly mae’r fideo yma wir yn dyst iddyn nhw a’u hymroddiad diwyro.”
Mae'r fideo, a ffilmiwyd yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, yn cynnwys staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn ogystal â gwirfoddolwr, Valmai, a phlant lleol Gwent, Lili, 5 wythnos oed, a Kit, 2 oed.
Cafodd Lili, sy'n chwarae'r babi newydd-anedig ar ddechrau'r fideo, ei geni 5 wythnos yn ôl yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Dywedodd ei mam, Jess:
“Roedden ni eisiau cymryd rhan yn y fideo yma fel ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad o’r GIG ac am y gofal rydyn ni wedi’i dderbyn. Rydyn ni mor ddiolchgar i bawb a helpodd i ddod â'n merch yn ddiogel i'r byd - diolch byth roeddem wedi gallu dod â hi adref yn syth ar ôl toriad Cesaraidd.
“Roedd cymryd rhan yn y fideo hwn yn ein hatgoffa y bydd y staff a oedd yno i’n helpu i ddod â’n merch fach hardd adref ar gyfer y Nadolig hefyd yn gweithio dros gyfnod y Nadolig ac yn ei dreulio oddi wrth eu teuluoedd eu hunain. Maent i gyd mor ymroddedig ac weithiau rydym yn cymryd yn ganiataol y ffaith y byddant yno i ofalu amdanom 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Diolch, GIG!”
Gwyliwch y fideo yma:
Dymunwn Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd iach i’r holl staff, cleifion a phreswylwyr.