Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith ar y gweill ar Ganolfan Gofal Sylfaenol Llanbradach newydd

Mae gwaith ar y gweill ar y Ganolfan Gofal Sylfaenol newydd gwerth £3m yn Llanbradach. Dechreuodd y gwaith ym mis Mawrth 2020 a disgwylir i'r adeilad newydd gael ei gwblhau yng Ngwanwyn 2021.

Mae'r datblygiad yn cadarnhau'r ymrwymiad a roddwyd i'r boblogaeth leol yn ystod y digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ac wedi'i gynllunio i fynd i'r afael ag anghenion penodol cymuned Llanbradach.

Penodwyd Apollo, cwmni datblygu trydydd parti, yn 2017 i ddylunio ac adeiladu'r ganolfan. Mae'r cwmni wedi gweithio'n agos gyda'r ddau Feddyg Teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili, y Cyngor Iechyd Cymunedol a Phartneriaeth Llanbradach, gan sicrhau llais lleol ar y cyfleusterau a gynigir.

Amcangyfrifir y bydd y ganolfan ar agor yng Ngwanwyn 2021 ac y bydd yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol ar gyfer y ddwy Feddygfa Teulu annibynnol yn Llanbradach.